Mae offeiriad o Dde Affrica wedi cael ei benodi’n Gaplan Prifysgol a Chymuned ym Mangor.
Gwaith y Parchedig Neville Naidoo fydd gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr o enwadau eraill o fewn tîm caplaniaeth Prifysgol Bangor i arwain gweinidogaeth myfyrwyr y Gadeirlan ar ran Gweinidogaeth Bro Deiniol ac Eglwys Gadeiriol Sant Deiniol.
Mae’r caplan wedi bod yn offeiriad yn Esgobaeth Johannesburg yn Ne Affrica ers iddo gael ei ordeinio yn 2013.
Mae Neville Naidoo wedi gweithio ym maes datblygu cymunedol ac addysg ers 35 mlynedd, yn bennaf mewn ysgolion, eglwysi a sefydliadau dielw, ac mae wedi bod yn ymgyrchu dros faterion fel HIV ac AIDS.
Derbyniodd ei radd BA mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Durban-Westville a gradd mewn diwinyddiaeth yng Ngholeg Awstin Sant.
Astudiodd hefyd yng Ngholeg y Diwygiad.
‘Breuddwyd’
Mae Neville Naidoo yn briod â Brendon, athro sydd wedi gweithio yn Ne Affrica, y Deyrnas Unedig, Kuwait, a Saudi Arabia, ac maen nhw’n byw gyda’i gilydd yn Johannesburg ers 20 mlynedd.
“Mae wedi bod yn freuddwyd gen i erioed i weithio mewn cymuned brifysgol ymhlith myfyrwyr a staff wrth wasanaethu’r gymuned ehangach hefyd,” meddai Neville Naidoo.
“Mae’r cynnig i ddod i Fangor i weithio yn gyffrous iawn.
“Mae Brendon a minnau wedi bod yn edrych i adleoli i ddinas newydd, ac roedd y cyfle i wasanaethu Esgobaeth Bangor a’r Eglwys yng Nghymru yn gyfle rhy dda i’w golli.
“Mae mentora wastad wedi bod wrth galon fy ngweinidogaeth ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda myfyrwyr a phobl Bangor i feithrin eu ffydd a’u helpu i dyfu yng nghariad Crist.”
‘Croesawu’r penododiad’
Cafodd Neville Naidoo ei benodi i’r rôl gan Archesgob Cymru.
“Rwy’n croesawu’n fawr benodiad Neville ac yn gweddïo ei fod ef a Brandon yn mwynhau eu bywyd a’u gweinidogaeth yma ym Mangor,” meddai Andrew John.
“Mae myfyrwyr yn chwarae rhan bwysig ym mywyd sgiliau unigryw Bangor a bydd Neville fel offeiriad a chaplan yn cynnig cyfleoedd newydd a chyffrous i’r weinidogaeth gyda myfyrwyr a staff Prifysgol Bangor.
“Mae Eglwys Gadeiriol Sant Deiniol mewn sefyllfa berffaith yng nghanol y ddinas i groesawu a chefnogi pawb sydd angen cariad Duw, ac rwy’n edrych ymlaen yn arbennig at weld sut y bydd gwaith gweinidogaeth Neville yn ffynnu yn y cyd-destun newydd hwn, er budd y Brifysgol a’r gymuned ehangach.”
Bydd Neville Naidoo wedi’i leoli yng Nghadeirlan Sant Deiniol ym Mangor, a bydd ei wasanaeth gosod yn cael ei gynnal ddydd Sul, Hydref 1.