Union 60 mlynedd ers ffrwydrad mewn eglwys yn Alabama, bydd yr Urdd yn talu teyrnged i’r plant fu farw yn yr ymosodiad.

Ar Fedi 15, 1963, cafodd pedwar o blant eu lladd mewn ffrwydrad brawychol yn eglwys ddu gyntaf a mwyaf Birmingham, Alabama.

Fe fydd cynrychiolwyr o’r Urdd yn ymweld ag ardal Eglwys y Bedyddwyr ar 16th Street er mwyn dangos undod â’i chymuned Affricanaidd-Americanaidd wythnos nesaf.

Bydd 13 o Lysgenhadon yr Urdd fu’n gyfrifol am Neges Heddwch ac Ewyllys Da Gwrth-hiliaeth 2023 yn cael cyfle i ddysgu mwy am hanes hawliau sifil Birmingham yno.

Ffurfiodd y berthynas rhwng y Cymry a chymuned Birmingham, Alabama yn dilyn yr ymosodiad brawychol pan gafodd John Petts, yr arlunydd o Lansteffan, ei ysgogi i ddylunio ffenestr liw ar gyfer yr eglwys.

Yn dilyn ymgyrch codi arian gan y Western Mail, cafodd y freuddwyd ei gwireddu a chafodd y ffenestr ei chyflwyno i’r eglwys gan bobol Cymru fel arwydd o gefnogaeth ac undod, a chaiff ei hadnabod hyd heddiw gan drigolion Birmingham fel y ‘Wales Window’.

‘Ysbrydoli ac ysgogi’

Dywed Sian Morgan Lloyd, uwch-ddarlithydd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd, sy’n mynd gyda’r llysgenhadon ar y daith, eu bod nhw’n teimlo’n “freintiedig” yn cael mynd ar y daith.

“Mae’r myfyrwyr, a fu’n gweithio ar y Neges Heddwch eleni, yn frwd dros ddefnyddio’u llais i greu newid,” meddai.

“Does gen i ddim amheuaeth y bydd y daith hon yn eu hysbrydoli a’u hysgogi hyd yn oed yn fwy.”

Bydd y daith yn cynnwys ymweliadau â nifer o adeiladau a sefydliadau hanesyddol ac arwyddocaol eraill oedd yn hynod bwysig i’r mudiad hawliau sifil, megis Tŷ Rosa Parks, Sefydliad Hawliau Sifil Birmingham, Motel AG Gatson a’r Amgueddfa Etifeddiaeth yn ogystal â gweithdy gyda phobol ifanc Birmingham.

Ymweliad ‘priodol’

Ychwaneg Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, eu bod nhw’n falch o’r cyfle i gryfhau’r berthynas â chymuned Affricanaidd-Americanaidd Birmingham, Alabama ac o roi’r cyfle i aelodau’r Urdd ddysgu mwy am hanes a digwyddiadau’r rhanbarth.

“Yn gynharach eleni, lluniodd ein pobol ifanc Neges Heddwch ac Ewyllys Da hynod bwerus sy’n taflu’r chwyddwydr ar wrth-hiliaeth, gan nodi’n glir, os yw pobol yn dyst i hiliaeth, bod angen i ni eu ‘Galw. Nhw. Allan.’

“Mae’n briodol iawn, felly, ein bod ni’n ymweld â Birmingham ar y dyddiad pwysig hwn yng nghwmni’r myfyrwyr a greodd y neges ddylanwadol hon ac a glywyd a rannwyd gan filoedd ledled y byd.”

Yn 2019, fe wnaeth ymweliad swyddogol gan Siân Lewis a Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Cymru ar y pryd, gryfhau’r berthynas, ac fe arweiniodd at bartneriaeth rhwng y mudiad ieuenctid a Phrifysgol Alabama yn Birmingham.

Fis Mehefin eleni, teithiodd Côr yr Efengyl Prifysgol Alabama (UAB) i Gymru i berfformio a dysgu mwy am ein hanes, ein hiaith a’n diwylliant.