Wrth i dymor newydd ddechrau yn y Senedd heddiw (dydd Llun, Medi 11), mae Arweinydd Plaid Cymru wedi rhybuddio am “aeaf caletach fyth”.

Daw sylwadau Rhun ap Iorwerth wrth iddo gyhuddo’r Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr Cymreig o “ddangos mwy o ddiddordeb mewn brwydro yn erbyn ei gilydd nac mewn brwydro dros Gymru.”

Dywedodd y byddai effaith cyflogau sydd ddim yn dal fyny â chostau byw a biliau uchel yn teimlo’n waeth fyth dros fisoedd y gaeaf wrth i fwy o ynni gael ei ddefnyddio.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, drafod ei flaenoriaethau yn ystod y tymor newydd yn y Senedd yn hwyrach heddiw.

Cynigion Rhun ap Iorwerth

Gyda phobol yn gweld “biliau’n codi, cyflogau go iawn yn gostwng, a ffydd ym mharodrwydd y Llywodraeth i helpu yn prysur ddiflannu” mae Rhun ap Iorwerth wedi cynnig amrywiaeth o fesurau y gellir eu rhoi ar waith yn gyflym er mwyn lliniaru effaith y caledi.

Yn eu plith mae:

  • Ymestyn y Cynllun Cefnogi Biliau Ynni i atal mwy o aelwydydd rhag cael eu llusgo i dlodi tanwydd y gaeaf hwn.
  • Cyflogau teg fel bod gweithwyr yng Nghymru yn cael eu talu’n iawn.
  • Sicrhau bod budd-daliadau craidd yn talu am gost hanfodion sylfaenol.
  • Cyflwyno Taliad Gwresogi’r Gaeaf waeth pa mor oer fydd y tywydd.
  • Gosod treth ffawdelw ar fanciau i dalu am gynllun arbed morgeisi.
  • Deddfu yng Nghymru i roi terfyn ar “godiadau rhent annheg”.

‘Amser tyngedfennol’

Wrth siarad cyn sesiwn gyntaf y Senedd ers gwyliau’r haf, dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Mae ar Gymru angen i wleidyddion fod ar ei hochr hi pan fo pethau’n anodd.

“Rwy’n gwybod nad yw’r sefyllfa fel y mae hi’r gorau y gall fod i’n cenedl, ac yn nhymor nesaf y Senedd byddaf yn brwydro dros Gymru decach, Cymru all gyflawni’r potensial sydd ganddi yn ddiamau.

“Y gwir yw ar hyn o bryd fod llanast y Torïaid a difrawder Llafur yn golygu bod biliau’n cynyddu, cyflogau mewn termau real yn gostwng, a ffydd pobol ym mharodrwydd y llywodraeth i helpu yn prysur ddiflannu.

“Craidd fy ngweledigaeth gadarnhaol i i Gymru yw mynd i’r afael ag anghydraddoldeb.

“Dyma’r amser tyngedfennol i fynd ati o ddifrif i geisio’r dyfodol gwell hwnnw i Gymru – dyma’r amser pan fo ar bobol fwyaf angen help.

“Fis diwethaf yn unig, rhybuddiodd Cyngor ar Bopeth fod y nifer uchaf erioed o bobol yng Nghymru a Lloegr eisoes yn chwilio am help gyda dyledion ynni hyd yn oed cyn i’r gaeaf daro, ac y bydd aelwydydd ar incwm isel sy’n ennill llai na £29k yn dioddef waethaf pan ddaw’r gaeaf.

“Wrth i’r tymor seneddol newydd gychwyn, mae rheidrwydd moesol ar lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Gyfunol i ganolbwyntio ar baratoi cynllun cynhwysfawr i roi cefnogaeth i aelwydydd fydd yn ei chael hi’n anodd dros y misoedd nesaf.

“Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ymestyn y Cynllun Cefnogi Biliau Ynni, gosod treth ffawdelw ar fanciau er mwyn talu am gynllun arbed morgeisio, a thalu cyflogau teg yn y sector cyhoeddus.

“Ar yr un pryd, dylai Llywodraeth Lafur Cymru ddeddfu’n syth i atal codiadau rhent annheg fel na fydd neb yn colli ei gartref y gaeaf hwn.

“Yr ydym yn barod i gynnig help ac arweiniad i’n cymunedau ac i deuluoedd sy’n ei chael yn anodd, ond mae angen i lywodraethau wneud hynny hefyd.

“Bydd methiant i weithredu gan y naill lywodraeth a’r llall yn golygu y byddwn yn wynebu gaeaf o galedi dybryd, gyda mwy fyth o aelwydydd yn disgyn i dlodi, yn methu cael dau ben llinyn ynghyd, ac yn suddo’n ddyfnach fyth i ddyled.”