Wrth drafod blaenoriaethau’r Senedd fore heddiw (dydd Llun, Medi 11), dywedodd y Prif Weinidog fod angen i San Steffan fwrw ymlaen â gwahardd y brîd Bwli Americanaidd “cyn gynted â phosibl”.
Daw hyn wrth i Suella Braverman, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, bwyso am waharddiad ar y brîd gan ddadlau eu bod yn “berygl clir a marwol”, yn enwedig i blant.
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref ei bod wedi comisiynu cyngor brys ar wahardd y cŵn ar ôl iddi dynnu sylw at ymosodiad “echrydus” ar ferch 11 oed yn Birmingham.
Cafodd y ferch a dau ddyn eu hanafu mewn ymosodiad yn Bordesley Green yn Birmingham, gyda’r tri yn dioddef anafiadau nad oedd yn peryglu eu bywydau.
Fodd bynnag, cyfrifoldeb Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw ychwanegu cŵn at y rhestr sydd wedi’i gwahardd o dan Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Thérèse Coffey.
Ond niw yw’r ci yn cael ei gydnabod fel brîd penodol gan y Kennel Club, felly gallai fod yn anodd ei ddiffinio a gallai gwaharddiad wahardd ystod o gŵn eraill yn anfwriadol.
‘Angen gweithredu nawr’
Pan ofynnwyd am ei deimladau am y posibilrwydd o wahardd y brîd, dywedodd Mark Drakeford: “Rwy’n credu y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig fwrw ymlaen â hyn, a bwrw ymlaen cyn gynted â phosibl.”
Cyfeiriodd at yr achos ble fu farw bachgen ifanc, Jack Lis, yng Nghaerffili yn dilyn ymosodiad gan gi o’r un brîd.
Mae Emma Whitfield, mam Jack, eisoes wedi bod yn galw am newid yn y gyfraith.
“Bydd rhai pobol yma yn cofio bod plentyn deg oed wedi marw yng Nghaerffili yn ôl yn 2021,” meddai Mark Drakeford.
“Mynychais Wobrau Dewrder Ffederasiwn yr Heddlu yn Llundain ar ddechrau toriad [y Senedd] a chafodd y tîm bach o swyddogion heddlu a fynychodd y digwyddiad cwbl ofnadwy hwnnw eu henwebu am Wobr Dewrder Cenedlaethol.
“Roeddwn i’n ddigon ffodus i allu siarad â nhw am yr hyn roedden nhw wedi’i weld y noson honno a sut roedden nhw wedi helpu eraill i ddelio ag ef.
“Ni allwch ddychmygu pa mor ofnadwy oedd hynny.
“Fe ysgrifennon ni at Lywodraeth y Deyrnas Unedig bryd hynny yn eu hannog i gryfhau’r amddiffyniadau yn y gyfraith yn erbyn yr hyn roedden ni wedi’i weld.
“Nid yw Deddf Cŵn Peryglus 1991 wedi’i datganoli – mae yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Rwy’n credu y dylen nhw fod wedi gweithredu eisoes ac rwy’n sicr yn credu bod angen iddyn nhw weithredu nawr.”
‘Gwarthus’
Ar ôl i luniau ffôn o’r ymosodiad yn Birmingham gael eu cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol, ysgrifennodd Suella Braverman ar X, Twitter yn flaenorol: “Mae hyn yn warthus.
“Mae’r Bwli Americanaidd XL yn berygl amlwg a marwol i’n cymunedau, yn enwedig i blant.
“Allwn ni ddim mynd ymlaen fel hyn.
“Rwyf wedi comisiynu cyngor brys ar eu gwahardd.”