Gweithiwr ieuenctid o Geredigion gafodd ei dewis i gynrychioli Cymru mewn rhaglen ryngwladol ar waith ieuenctid gwledig eleni.

Treuliodd Cara Jones, o bentref Brynhoffnant, bythefnos yn Herrsching yn yr Almaen gyda 77 o weithwyr ieuenctid ac arweinwyr eraill o 46 gwlad ar y cwrs.

Gan ganolbwyntio ar waith ieuenctid mewn ardaloedd gwledig, roedd y Rhaglen Arweinyddiaeth Ryngwladol yn cael ei chynnal am y 31ain fis Awst.

Roedd Cara Jones yn arfer gweithio yng Nghaerdydd, ac un o’r prif heriau mae hi’n ei weld mewn ardal wledig ydy’r diffyg trafnidiaeth i bobol ifanc.

“Roedd ganddyn nhw gysylltiadau trafnidiaeth gwych [yng Nghaerdydd],” meddai Cara Jones, sy’n gweithio yng nghlwb ieuenctid Aberaeron ond yn gallu teithio dros Geredigion gyfan gyda’i gwaith, wrth golwg360.

“Roedd ganddyn nhw bopeth ar garreg eu drws.

“Yng Ngheredigion, mewn ardal wledig, mae’n eithaf anodd oherwydd, os yw person ifanc eisiau dod i glwb ieuenctid, mae’n rhaid iddyn nhw gael lifft ac weithiau efallai nad yw rhieni yn gyrru,  mae pethau felly yn codi.

“Mae trafnidiaeth yn her i waith ieuenctid gwledig.

“Os ydyn ni’n mynd â nhw ar deithiau i leoedd, mae’n rhaid iddyn nhw deithio’n eithaf pell hefyd.”

Cara Jones ar y chwith

‘Meddwl yn fyd-eang’

Testun y rhaglen, sy’n cael ei threfnu a’i hariannu gan Weinyddiaeth Bwyd ac Amaethyddiaeth Ffederal yr Almaen, eleni oedd ‘Meddwl yn fyd-eang – Dewch at eich gilydd a gweithredwch yn lleol’.

Cafodd y cyfranogwyr groeso gan Lywydd yr Asiantaeth Ffederal Amaethyddiaeth a Bwyd, Dr Margareta Büning-Fesel, a chael cyfle i ddysgu am arweinyddiaeth, datrys problemau, gwaith tîm, creadigrwydd a chyfathrebu.

“Fe wnaethon ni ddysgu hefyd am ddiwylliannau a thraddodiadau gwahanol, a llawer o’r un heriau sy’n ein hwynebu ni i gyd yn ein gwledydd cartref,” meddai Cara Jones.

“Roedd cryn dipyn o bobl o Affrica yno, maen nhw’n gweithio gyda phobol ifanc yn wahanol.

“Roedd un wraig o Kenya, athrawes oedd hi, a dywedodd bod ganddyn nhw lawer o broblemau, fel cael gwisg ysgol i bobol ifanc.

“Dywedodd bod problemau o hyd gyda phobol yn defnyddio’r gansen.

“Roedd hynny braidd yn ysgytwol, ond yn amlwg, mae angen gwybod a deall beth sy’n mynd ymlaen mewn gwahanol wledydd.

“Roedd hynny’n agoriad llygad i mi, dw i’n meddwl.”

Ynghyd â chyflwyno sesiwn i dros 60 o gyfranwyr, bu Cara Jones a’r cynrychiolwyr eraill yn ymweld ag ambell le hanesyddol yn yr Almaen, gan gynnwys Palas Numphenburg yn München a’r Alpau.

“Aethon ni ar wibdaith i Wersyll Crynhoi Dachau,” ychwanegodd Cara Jones.

“Roedd hynny’n dipyn o agoriad llygad oherwydd yn amlwg mae pawb yn gwybod am yr holl bethau hyn a ddigwyddodd yn yr Ail Ryfel Byd o’r ysgol, ond mewn gwirionedd roedd bod yno yn agoriad llygad i fi.”

Profiad “gwerthfawr”

Yn ôl y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gydol Oes a Llesiant Ceredigion, roedd y profiad yn un “gwerthfawr”.

“Rydym wedi bod yn ffodus i elwa o’r cyfle hwn a ariannwyd gan Weinyddiaeth Bwyd ac Amaethyddiaeth Ffederal yr Almaen, sydd wedi galluogi un o Weithwyr Ieuenctid Ceredigion i brofi rhywbeth hollol newydd a gwerth chweil.

“Roedd Cara yn llwyddiannus yn ei chais i dderbyn lle ar y rhaglen ac roedd wedi cyfarfod a dysgu oddi wrth Arweinwyr Ieuenctid eraill o bob rhan o’r byd, yn ogystal â rhannu diwylliant a thraddodiadau Cymreig ag eraill.”