Yn y Senedd yr wythnos nesaf, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwared a’r terfynau cyflymder 20 m.y.a. fydd yn cael eu cyflwyno ar Fedi 17.
Pan ddaw’r polisi i rym bydd y mwyafrif o strydoedd 30 m.y.a. yng Nghymru yn cael eu cyfnewid am rai 20 m.y.a.
Ymatebion cymysg sydd wedi bod i’r penderfyniad hyd yma gyda rhai’n dadlau ei fod yn ffordd o achub bywydau ac amddiffyn yr amgylchedd tra bod eraill yn pryderu am yr effaith fydd yn ei gael ar amseroedd teithio a gwasanaethau brys.
Yn ystod y ddadl yn y Senedd ddydd Mercher nesaf (13 Medi) bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gorfodi pleidlais er mwyn diddymu’r rheoliadau terfyn cyflymder newydd.
Dywedodd llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar, bod ei phlaid eisiau dileu’r polisi newydd.
Gorfodi pleidlais
“Mae’r gwrthwynebiad i’r gwaith o gyflwyno terfyn cyflymder 20 m.y.a. chwerthinllyd Llafur yn dod yn fwyfwy amlwg wrth i ni agosáu at 17 Medi,” meddai Natasha Asghar.
“Dyna pam y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn defnyddio amser Senedd yr wrthblaid i orfodi pleidlais ar ddiddymu Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 m.y.a.) (Cymru) 2022.
“Gyda chynlluniau Llafur yn costio £33 miliwn ac ergyd pellach o £4.5 biliwn i economi Cymru, a gwasanaethau brys wedi arafu, a bywoliaeth pobl mewn perygl, rydym yn galw ar y Llywodraeth Lafur i ddileu’r polisi chwerthinllyd hwn.
“Yr wythnos nesaf, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio dros beidio â chyflwyno cyfyngiadau cyflymder 20 m.y.a.
“Mae’n bryd i Lafur a Phlaid Cymru wrando ar eu hetholwyr a gwneud yr un peth.”
Ymatebion cymysg
Ddoe (7 Medi) cafodd nifer o arwyddion ffordd 20 m.y.a. eu fandaleiddio ar draws gogledd Cymru tra bod eraill wedi bod yn protestio yn erbyn y polisi trwy glymu rhubanau coch i’w ceir.
Er hynny, mae eraill yn gweld y buddion gydag arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds, yn dweud wrth golwg360 bydd y cyhoedd wedi anghofio am y newidiadau ymhen blwyddyn.
“Bydden ni ddim yn meddwl am y peth mewn mis, neu chwe mis neu beth bynnag,” meddai.
Ac er ei bod hi wedi derbyn negeseuon o bryder gan ei hetholwyr mae hi’n hyderus mai dyma’r ffordd ymlaen i Gymru.