Nid oes concrit RAAC wedi ei ganfod yn yr un ysgol arall yng Nghymru hyd yma, meddai’r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles a’r Gweinidog Llywodraeth Leol, Rebecca Evans.
Cadarnhawyd dydd Llun (4 Medi) bod y concrid wedi cael ei ddefnyddio mewn dwy ysgol yn Ynys Môn sef Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy ac Ysgol Uwchradd Caergybi.
Dros yr wythnos ddiwethaf mae awdurdodau lleol wedi bod yn arolygu eu hysgolion er mwyn ceisio creu darlun mwy clir o’r sefyllfa.
Er nad oes mwy o ysgolion wedi eu heffeithio hyd yma, mae asesiadau yn parhau mewn sawl sir.
Fodd bynnag, mae gweddill yr ysgolion yn parhau i fod ar agor tra bod y gwaith asesu yn mynd yn ei flaen.
Yn dilyn canfod RAAC mewn ysgolion yn Lloegr, mae Ystadau Cymru wedi cyhoeddi arolwg newydd er mwyn hwyluso’r broses o ganfod RAAC mewn adeiladau cyhoeddus.
Mae’n broses dau-gam, gyda gwybodaeth yn cael ei gasglu gan awdurdodau lleol a sefydliadau sydd â phortffolio eiddo cyhoeddus yn ystod y cam cyntaf er mwyn cael syniad gwell o’r gwaith sydd wedi ei wneud ar yr adeiladau.
Mae’r wybodaeth yn cynnwys pethau fel pryd cafodd yr arolygon eu gwneud diwethaf a chanlyniadau’r arolygon.
Disgwylir bydd y wybodaeth yma ar gael erbyn 15 Medi.
Yn ystod yr ail gam caiff cais ei wneud am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r adeiladau sydd wedi eu heffeithio gan RAAC gan gynnwys beth yw defnydd yr adeilad.
Bydd y wybodaeth yma ar gael o fewn 28 diwrnod ac yna bydd yn cael ei ddadansoddi’n drylwyr er mwyn penderfynu beth yw’r camau nesaf.
‘Annerbyniol’
Mae llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Laura Anne Jones, wedi beirniadu diweddariad Llywodraeth Cymru ar y sefyllfa gan ddweud nad yw’n ddigon da.
Mae hi’n bryderus am yr eglurhad amwys sydd wedi cael ei roi ar gyfer yr ysgolion mewn rhai siroedd.
“Mae datganiad diweddaraf y Llywodraeth Lafur yn profi eu bod yn parhau ar ei hôl hi o ran RAAC yn ysgolion Cymru,” meddai.
“Er fy mod yn croesawu’r Gweithgor Concrit a chydweithrediad traws lywodraethol, bydd angen datganiadau pellach.
“Mae yna anghysondebau difrifol gydag adroddiadau cynghorau ar gyfer RAAC mewn ysgolion, gyda rhai yn dweud nad oes ’dim pryderon uniongyrchol’ a llinell amwys gan Gyngor Caerdydd yn dweud nad yw ‘mwyafrif o ysgolion’ yn cael eu heffeithio.
“Ni fydd hyn yn tawelu meddyliau rhieni.”
Aeth yn ei blaen i ddweud mai lles a diogelwch disgyblion a staff yw’r peth pwysicaf.
“Mae angen gwneud popeth i sicrhau ansawdd yr addysg y byddant yn ei derbyn gartref a bod unrhyw anghenion ychwanegol yn cael eu diwallu,” meddai
“Mae cyfaddefiad y Gweinidog Llafur na fydd llun cyflawn ar gael am wythnos arall yn annerbyniol.
“Mae rhieni a disgyblion Cymru yn haeddu eglurder gyda llawer mwy o frys.”