Mae’r pwll nofio yn y Ganolfan Hamdden yng Nghaernarfon wedi cau ar ôl i goncrit RAAC gael ei ddarganfod yn rhan o do’r adeilad.
Er mwyn diogelu staff a chwsmeriaid, penderfynwyd cau’r pwll nofio heddiw (Dydd Gwener 8 Medi) tra bod ymchwil pellach i’r strwythur.
Mewn datganiad ar wefan y Ganolfan Hamdden, maen nhw’n pwysleisio mai ardal y pwll nofio yn unig sydd dan sylw gan ychwanegu: “Nid oes tystiolaeth o’r deunydd mewn rhannau eraill o’r adeilad na’r safle yn ehangach.”
Mi fydd gweddill yr adeilad a’r safle yn parhau ar agor fel arfer.
“Mi fydd gwaith ymchwil pellach yn cael ei drefnu wythnos nesaf i gael gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa ac i adnabod y datrysiad gorau. Mi fydden ni wrth gwrs yn gweithio i ail agor y pwll mor fuan â phosib mewn modd diogel.
“Mae croeso i gwsmeriaid gwneud defnydd o byllau nofio eraill Byw’n Iach yn y cyfamser, ac os bydd angen cau am gyfnod estynedig mi fydden ni’n cysylltu gydag aelodau, clybiau a rhai sydd yn derbyn gwersi nofio yn uniongyrchol i gynnig diweddariad pellach.”
Maen nhw wedi ymddiheuro am yr anghyfleuster.