Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu bod yn bygwth gwthio ymdrechion carbon net sero yn ôl trwy fethu sicrhau cytundeb ar gyfer fferm wynt ar y môr yn Sir Benfro.

Mae llefarydd amgylchedd Plaid Cymru yn San Steffan, Ben Lake, wedi dweud bod y newyddion yn “siomedig tu hwnt.”

Dywedodd mai canlyniad cynllunio gwael gan y llywodraeth oedd colli allan ar brosiect fferm wynt yn y môr yn Sir Benfro.

Bwriad y cynllun Erebus oedd cynhyrchu 96MW o drydan i bron 90,000 o gartrefi gan leihau costau ynni.

Fodd bynnag, methodd y prosiect i sicrhau unrhyw gytundebau yn ocsiwn ynni adnewyddadwy Llywodraeth y Deyrnas Unedig, er eu bod yn honni mai mwy o ynni gwynt ar y môr yw eu prif ffocws.

Bwriad yr ocsiwn yw annog y sector preifat i fuddsoddi mewn prosiectau ynni amrywiol trwy fframwaith Contract Gwahaniaeth er mwyn gweithio tuag at dargedau carbon sero net.

Ond, yn ôl Ben Lake, mae pris uchaf Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar eneraduron yn rhy isel i allu ennyn diddordeb ac nid yw’n cymryd y costau uchel o gynhyrchu a gosod tyrbinau i ystyriaeth.

‘Cymru ar ei cholled’

“Prosiect Erebus yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru, a byddai wedi paratoi’r ffordd ar gyfer datblygiadau ynni gwynt alltraeth pellach, helpu i ostwng biliau ynni, a gwneud cyfraniad pwysig i economi de-orllewin Cymru,” meddai.

“Er gwaethaf rhybuddion dro ar ôl tro gan y diwydiant, methodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig â chynnwys costau cynyddol yn y broses arwerthiant, gan wneud y prosiect blaenllaw hwn yn llai cystadleuol.

“Ar y llaw arall, cynhaliodd Llywodraeth Iwerddon eu harwerthiant ym mis Mai gyda fframwaith a oedd yn cydnabod costau cyfredol y gadwyn gyflenwi ac a sicrhaodd fuddsoddiad mewn pedair fferm wynt ar y môr.

“Mae Cymru ar ei cholled i Iwerddon oherwydd cynllunio gwael Llywodraeth y Deyrnas Unedig.”

Dyfodol yn y fantol

Y fenter Blue Gem Wind sy’n gyfrifol am weithredu prosiect 100MW Erebus erbyn 2026.

Fe dderbyniodd y cynllun ganiatâd gan Lywodraeth Cymru fis Mawrth ond dyfodol ansicr sydd i’r prosiect o ganlyniad i golli allan ar y cytundeb.

“Yn anffodus, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig nid yn unig yn gwthio ein hymdrechion hinsawdd yn ôl ond hefyd yn methu â sicrhau cyfle amhrisiadwy a allai roi hwb i economi de-orllewin Cymru,” meddai Ben Lake.

“Er mwyn osgoi rhagor o siomedigaethau yn y dyfodol, rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddiwygio ei fframwaith Contract Gwahaniaeth ar fyrder fel y gall prosiectau adnewyddadwy Cymru gystadlu am fuddsoddiad preifat sydd eu hangen yn ddirfawr.

“Mae Plaid Cymru hefyd yn galw eto am ddatganoli rheolaeth Ystâd y Goron i Gymru.

“Byddai hyn yn helpu Llywodraeth Cymru i greu strategaeth ynni gwynt ar y môr ‘Gwnaed yng Nghymru’ na fydd yn cael ei thanseilio gan fethiannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.”