Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd mewn saith sir ddydd Sadwrn (9 Medi).
Mae rhybudd y gallai ardaloedd yn y gogledd a’r canolbarth gael eu taro gan law, mellt a tharanau rhwng 2pm a 9pm ddydd Sadwrn. Daw hyn wedi cyfnod o dywydd poeth.
Mae’r rhybudd yn effeithio ardaloedd yn siroedd Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Powys a Wrecsam.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, fe allai hyn achosi amodau heriol i deithwyr gyda llifogydd yn arwain at gau ffyrdd, a’r posibilrwydd o oedi ar wasanaethau trên a bws. Fe allai rhai cartrefi a busnesau yn yr ardaloedd yma hefyd golli eu cyflenwad trydan, gyda’r posibilrwydd o ddŵr yn llifo i adeiladau.