Mae tri chynghorydd tref newydd wedi cael eu hethol i Gyngor Tref Caernarfon yr wythnos hon sy’n golygu bod y mwyafrif o’r cyngor yn ferched am y tro cyntaf erioed.
Mae Mirain Llwyd, Cynghorydd Tref Caernarfon ward Peblig, yn dweud ei bod yn edrych ymlaen yn fawr at roi llais i ferched o fewn cymdeithas.
Y ddwy arall sydd wedi eu hethol yw Eleri Davies yn ward Hendre ac Eiriona Hughes yn ward Cadnant.
“Dw i’n byw yma ers tair blynedd bellach felly mae’n braf teimlo y gallaf drio gwneud dipyn bach o wahaniaeth yn yr ardal dw i’n byw ynddi,” meddai Mirain Llwyd.
“Mae o’n deimlad braf a dw i’n edrych ymlaen at ymgymryd efo’r gwaith.
“Dan ni’n fwyafrif o ferched yn y cyngor tref ar ôl y cyfethol diweddaraf sydd wedi digwydd.
“Dw i’n meddwl fod hynny’n gyfnod reit gyffrous.
“Mae yna rai yn credu mai dyma’r tro cyntaf erioed i Gyngor Tref Caernarfon gael y mwyafrif o ferched.
“Mae o’n gyffrous achos er bod yna fwy a mwy o ferched yn mynd mewn i wleidyddiaeth mae dal yn cael ei bortreadu a’i weld yn male dominated.
“Fel merch ifanc sydd wastad wedi bod â diddordeb mewn gwleidyddiaeth mae o’n gallu bod yn dir brawychus i drio, neu feddwl, mynd mewn iddo fo.
“Mae o’n beth braf gwybod bod yna fwy a mwy o ferched i fynd i wneud pethau yn wleidyddol a chymryd rolau fel cynghorwyr tref ac ati.”
“Dw i’n unigolyn reit hyderus a dw i hefyd wedi bod yn llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor o’r blaen sydd wedi rhoi llawer iawn o sgiliau i fi ar gyfer y math yma o rôl, ond yn fwy na dim dw i’n weithgar iawn yn y gymuned yng Nghaernarfon.
“Dw i wedi helpu efo Gŵyl Fwyd Caernarfon, Cronfa Caernarfon, Eisteddfod ac amryw o brosiectau a mudiadau eraill. Dwi’n gobeithio bod y wybodaeth a’r ddealltwriaeth yna a bod yn helpu fi dros siapio penderfyniadau dros Gaernarfon yn y dyfodol.”
‘Lleisiau merched yn cael eu colli’
Dywed Mirain Llwyd ei bod yn gobeithio bod yn llais dros ferched.
“Dw i’n meddwl ei fod yn bwysig bod merched ar Gyngor Tref Caernarfon achos mae lleisiau merched weithiau’n cael eu colli mewn cymdeithas, dim gymaint rŵan ac oedd o ers talwm, wrth gwrs,” meddai.
“Mae’n beth da cael mwyafrif o ferched a lleisiau merched mewn llefydd fel cynghorau tref er mwyn gwneud yn siŵr bod lleisiau merched yn cael eu clywed.”
Yn ôl Mirain Llwyd mae rôl gwleidydd wedi cael ei weld, yn draddodiadol, fel rôl i ddyn ond mae newid ar droed, meddai.
“Mae gwleidyddiaeth a rolau fel cynghorwyr tref, cynghorwyr sirol ac aelodau San Steffan ac ati wedi cael eu gweld am flynyddoedd fel rolau i ddynion,” meddai.
“Er bod hyn i gyd wedi newid ers blynyddoedd bellach dan ni dal yn cymryd camau bychan bach i fod yn gryfach.”