Mae Rob Page yn credu bod tîm pêl-droed Cymru wedi cyrraedd eu safon gorau ers cyn Cwpan y Byd erbyn hyn.

Cawson nhw ymgyrch siomedig yn Qatar, gan fynd allan o’r twrnament ar ôl y gemau grŵp.

Mae Page wedi wynebu cryn feirniadaeth yn ddiweddar gyda’i dîm wedi ennill dim ond un gêm allan o 13.

Mae e wedi wfftio’r awgrym fod ei swydd yn y fantol, gan ddweud ei fod e a’r garfan yn canolbwyntio’n llwyr ar y gêm ragbrofol ar gyfer Ewro 2024 yn erbyn Latfia yn Riga nos Lun (Medi 11).

‘Yn ôl i’n hunaniaeth’

Ar ôl gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn De Corea yn Stadiwm Dinas Caerdydd neithiwr (nos Iau, Medi 7), fe wnaeth Rob Page ganmol ei chwaraewyr am ailddarganfod eu “hunaniaeth” yn dilyn colledion siomedig yn erbyn Twrcia ac Armenia ym mis Mehefin.

“Mae llawer wedi cael ei ddweud ers y gwersyll diwethaf,” meddai wrth y wasg ar ôl y gêm.

“Byddwch chi wedi gweld ymateb y chwaraewyr heno yn erbyn tîm da iawn gydag un o’r ymosodwyr gorau [Son Heung-min] mewn pêl-droed ar draws y byd.”

“Dw i’n hapus iawn gyda nhw,” meddai am ei dîm wedyn.

“Dw i’n falch o’r ffordd wnaethon ni amddiffyn.

“Roedd hynny’n ôl i’n hunaniaeth ni.

“Dyna lefel y perfformiadau gyrhaeddon ni ym mis Mawrth, oddi cartref yn erbyn Croatia [1-1], a gartref yn erbyn Latfia [buddugoliaeth o 1-0].

“Wnaethon ni ddim cyrraedd y safonau hynny ym mis Mehefin, a dyna wnaeth fy siomi fwyaf.

“Heno, roedden ni’n ôl i’r safonau hynny.”

Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill, meddai, roedd ymddangosiad cyntaf Jordan James yng nghrys Cymru ond mae’n pwysleisio bod lle i wella eto ar drothwy gêm allai benderfynu eu dyfodol yn ymgyrch ragbrofol Ewro 2024 a dyfodol Rob Page yn rheolwr ar Gymru.

Cymru a De Corea’n gyfartal ddi-sgôr

Alun Rhys Chivers

Ochenaid o ryddhad i Rob Page wrth i’r tîm ddod oddi ar y cae heb bryderon mawr am anafiadau cyn teithio i Latfia