Mae Cabinet Cyngor Sir Fynwy wedi cytuno i gefnogi partneriaeth newydd gydag awdurdodau cyfagos y ddwy ochr i’r ffin.
Bydd Partneriaeth Drawsffiniol y Mers yn eu gweld nhw’n cydweithio â’u cymdogion ym Mhowys, yn ogystal â Swydd Henffordd a Swydd Amwythig y tu draw i Glawdd Offa.
Dywed Mary Ann Brocklesy, arweinydd Llafur Cyngor Sir Fynwy sy’n cynrychioli ward Llanelly Hill ger y Fenni, mai’r bwriad yw i gynghorau gydweithio er mwyn mynd i’r afael â materion megis anghydraddoldeb a’r gallu i ddenu arian gan lywodraethau.
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn arbennig o awyddus i fuddsoddi mewn partneriaethau mewn cymunedau gwledig,” meddai.
Ychwanega fod “Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru” wedi bod yn “dref-ganolog iawn”, ond dywedodd wrth y Cabinet eu bod nhw’n “gwthio ar ddrws sydd ar agor”.
Y bartneriaeth
Cytundeb gwirfoddol rhwng y cynghorau yw’r bartneriaeth drawsffiniol, ac mae’r arweinydd yn dweud bod hynny’n golygu nad oes iddi’r un costau na goblygiadau gan gwmnïau cydweithredol ffurfiol megis Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Y disgwyl yw y bydd arweinwyr gwleidyddol yn cyfarfod bob chwarter, fel arfer ar-lein, gyda chyfarfodydd mwy rheolaidd rhwng staff, ond mae disgwyl i gyfarfodydd blynyddol gael eu cynnal wyneb yn wyneb.
“Does dim disgwyl y bydd y cyfarfodydd ar agor i’r cyhoedd, ond bydd y cofnodion yn cael eu cyhoeddi yn y modd arferol,” meddai.
Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, sy’n cynrychioli Drybridge, ei bod hi wedi ei tharo nad oedd Swydd Gaerloyw wedi’i chynnwys yn y bartneriaeth, ond dywedodd yr arweinydd y gallai’r bartneriaeth ddatblygu dros gyfnod o amser.
Cytunodd Cabinet Sir Fynwy yn ffurfiol i sefydlu’r bartneriaeth drwy grŵp cyd-arweinwyr a thrwy lofnodi memorandwm o ddealltwriaeth, yn ogystal â rhoi sêl bendith i uwch swyddogion gael fwrw ymlaen â chynllunio.