Mae Elwyn Vaughan, cynghorydd Plaid Cymru dros ardal Glantwymyn ym Mhowys, yn dweud bod angen i’r cydweithio trawsffiniol rhwng cynghorau y naill ochr i Glawdd Offa a’r llall fod yn “fwy na chysylltiadau”.
Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad y bydd Powys a Sir Fynwy yn ffurfio partneriaeth gyda chynghorau sir Amwythig a Henffordd, er mwyn gallu cydweithio ar brosiectau mawr.
Y gobaith yw y bydd y bartneriaeth yn eu galluogi nhw i ddod at ei gilydd er mwyn ceisio am ragor o gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Bydd hyn yn eu galluogi nhw hefyd i weithio ar nifer o brosiectau newydd fyddai o fudd i’r boblogaeth o 735,000 ar ddwy ochr y ffin.
Mae hyn yn cynnwys materion fel trafnidiaeth, sgiliau, tai, ynni, newid hinsawdd a chysylltedd digidol.
Mae Cyngor Powys yn disgrifio’r bartneriaeth fel un “arloesol” ag iddi “botensial mawr”.
“Yn amlwg, ar un wedd mae’n gwneud synnwyr i gydweithio â phob un awdurdod lleol sy’n gymydog i chi,” meddai Elwyn Vaughan wrth golwg360.
“Yng nghyd-destun Powys, mae yna nifer fawr ohonyn nhw – Ceredigion, Sir Ddinbych, Wrecsam ac yn y blaen.”
‘Cyfrannu’n helaeth at dwf ac esblygiad Cymru’
Un her bosib allai godi wrth i Bowys a Sir Fynwy gydweithio â siroedd Henffordd ac Amwythig, yn ôl Elwyn Vaughan, yw mai pleidiau unoliaethol sy’n rhedeg y pedwar cyngor sir ac nad ydyn nhw’n edrych ar sefyllfaoedd drwy lygaid Cymreig.
“Y Rhyddfrydwyr sydd mewn grym ym Mhowys, ac mae’n atgoffa rhywun mai plaid unoliaethol yden nhw, a dyden nhw ddim o reidrwydd yn gweld pethau yn y cyd-destun Cymreig, ein hanes a’n potensial ac yn y blaen,” meddai Elwyn Vaughan.
Ond dydy Powys “ddim yn gwneud y mwyaf ohono fo”, meddai.
“Mae’n fy atgoffa i o’r naratif dw i wedi bod yn ceisio’i hybu ac wedi’i bwysleisio sawl tro, sef bod Powys yn hanesyddol wedi cyfrannu’n helaeth i dwf ac esblygiad Cymru fel gwlad – popeth o Gilmeri i Frynglas a Sycharth, Glyndŵr ym Machynlleth ac yn y blaen.
“Hanes Llyfr Coch Hergest wedyn yn Sir Frycheiniog ac ar y ffin yn Kington, ac mae’n rywbeth dydi Powys ddim yn ei amlygu nac yn gwneud y mwyaf ohono fo.”
‘Troi’r weledigaeth ben i waered’
Dywed Elwyn Vaughan y dylid anghofio’r ddadl barhaus fod popeth yn mynd naill ai i’r de neu i’r gogledd a bod Powys yn cael ei hanghofio.
“Fy nadl ydi mai’r weledigaeth ddylai fodoli ym Mhowys ydi troi hwnna ben i waered ac, yn lle gweld Powys fel rhywle ar y cyrion ac ymylol i bob peth, dylid gweld Powys fel y canol a dylid edrych arni fel cwlwm Celtaidd, yn clymu gweddill Cymru yn un,” meddai.
“Petai rhywun efo persbectif a gwelediad fel yna, mi fyddai’r ffordd mae rhywun yn gweithredu wedyn yn wahanol, ac mi fyddai ymddygiad rhywun fel Llywodraeth Cymru’n wahanol.
“Wedyn mi fasa hi’n haws dadlau’n strategol am fuddsoddiad ym Mhowys, fel y canolbwynt fysa nid yn unig ym Mhowys ond y siroedd Cymreig eraill sydd o gwmpas.
“Dyna sy’n dod i fy meddwl i ydi mai dyna ddylai fod y pwyslais a’r weledigaeth, a dim byd arall.”
Cynllun sy’n galw am “fuddsoddiad sylweddol”
Yn ôl Elwyn Vaughan, byddai angen buddsoddiad sylweddol er mwyn creu partneriaeth ystyrlon yn y meysydd sydd wedi cael eu hamlinellu.
“Maen nhw’n dweud fod dim adnoddau, ond dw i’n credu ei fod o’n ddyhead gan San Steffan yn fwy na dim i wneud buddsoddiad yn y Marches, fel maen nhw’n ei alw fo,” meddai.
“Mae sôn am hynny ers blynyddoedd, ond does yna fawr ddim i ddangos amdano fo.
“Ond os oes yna etholiad a newid pleidiau yn fuan iawn mewn etholiad, efallai y bydd o’n cael mynd i’r gwynt beth bynnag.
“Mae’n amlwg beth maen nhw’n sôn amdano fo, pethau fel ffyrdd ond mae hwnna’n sôn am fuddsoddiad sylweddol gan y sector cyhoeddus, ac mae hynny’n beth prin y dyddiau yma, boed o Gaerdydd neu o Lundain.
“Ar y wyneb, mae o’n gallu swnio fel rhywbeth PR ond faint o sylwedd sydd ynddo fo sy’n fater arall.
“Mae angen mwy na chysylltiadau fel hyn a bod dim byd yn dod ohono fo, a chael corff eto fel oedd Bwrdd Datblygu Cymru Wledig ers talwm.
“Dyna, mewn gwirionedd, fyddai’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf yn economaidd ac yn gymdeithasol ym Mhowys, a dim byd arall.”