Bydd Cynghorau Sir Fynwy a Phowys yn ffurfio partneriaeth gyda chynghorau Amwythig a Sir Henffordd er mwyn gallu cydweithio ar brosiectau mawr.
Y gobaith yw y bydd y bartneriaeth yn eu galluogi nhw i ddod at ei gilydd er mwyn ceisio am ragor o gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Bydd hyn yn eu galluogi nhw hefyd i weithio ar nifer o brosiectau newydd fyddai o fudd i’r boblogaeth o 735,000 ar ddwy ochr y ffin.
Mae hyn yn cynnwys materion fel trafnidiaeth, sgiliau, tai, ynni, newid hinsawdd a chysylltedd digidol.
‘Cytundeb arloesol’
Yn ôl James Gibson-Watt, arweinydd Cyngor Powys, mae “potensial mawr” yn sgil y cytundeb.
“Mae’n adlewyrchu daearyddiaeth yr ardal, ac ar yr un pryd mae’n cydnabod rhai o’r pethau cyffredin rhyngom,” meddai.
“Mae cefnogaeth drawsffiniol wedi bod i’n gilydd erioed, felly mae’r bartneriaeth arfaethedig hon yn ddilyniant naturiol ac yn cyd-fynd yn gyfforddus â’r blaenoriaethau yn ein Cynllun Gwella Corfforaethol a Chydraddoldeb – Cryfach, Tecach, Gwyrddach.”
Mae’r Cyngor wedi disgrifio’r cytundeb fel un “arloesol”.
“Rydym eisoes yn siarad â’r llywodraeth am y manteision y gall ein cydweithio eu cynnig ac mae’n frwdfrydig am y potensial ar gyfer y rhanbarth ehangach,” meddai.
“Mae’n gyffrous ac yn wir yn arloesol i awdurdodau cyfagos yng Nghymru a Lloegr i gydweithio a’i gilydd fel hyn.
“Yn naturiol, mae cysylltiadau cryf rhyngom, ac mae hyn yn rhoi cyfle i ni adeiladu ar ein treftadaeth gyffredin ac edrych ymlaen at y dyfodol.”
‘Rhwystrau artiffisial’
Maen nhw’n bwriadu llofnodi’r cytundeb fis Hydref.
Er hynny, dywed nad oes unrhyw beth yn atal cydweithio rhwng awdurdodau neu bartneriaid eraill cyn hynny.
“Rydym yn gobeithio y gallwn ni chwalu’r rhwystrau trawsffiniol artiffisial sy’n bodoli a gyda’n gilydd gymryd rheolaeth dros rai o’r materion mawr sy’n bwysig i gymaint o bobl,” meddai.
Dywed Mary Ann Brocklesby, arweinydd Cyngor Sir Fynwy, fod natur wledig yr ardaloedd yn golygu bod ganddyn nhw nifer o bethau’n gyffredin i’w clymu nhw.
“Ein nod yw darparu fforwm i sefydlu fframwaith cydweithio rhwng yr ardaloedd cysylltiedig hyn o Gymru a Lloegr, gan gydweithio i fynd i’r afael â buddiannau a rennir yn drawsffiniol a hybu buddsoddiad yn y rhanbarth,” meddai.
“Mae llawer o ffactorau, gan gynnwys cyfleustra daearyddol, yn gyrru’r symudiad trawsffiniol.”