Mae Liz Saville Roberts ymhlith y rhai sy’n galw am ddychwelyd rhai o arteffactau’r Amgueddfa Brydeinig i Gymru.

Daw’r alwad wedi i’r amgueddfa gyhoeddi bod bron i 2,000 o arteffactau wedi cael eu dwyn.

“Nid yw’r ddadl bod Marblis Parthenon, Mantell Aur yr Wyddgrug neu Darian Moel Hebog  yn fwy diogel yn Llundain ddim yn dal dŵr bellach,” meddai arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

Ymatebodd un defnyddiwr ar X (Twitter), gan ddweud y byddai wrth ei fodd yn gweld y Fantell yn dychwelyd i’r Wyddgrug a’r Darian i Foel Hebog, ond ei fod yn pryderu mai i Gaerdydd y bydden nhw’n mynd mewn gwirionedd.

Ond yn ôl Liz Saville Roberts, byddai hynny’n well na’u gweld nhw’n aros yn Llundain.

“Byddai’n llawer gwell gen i fod trysorau Cymru yn cael eu harddangos yng Nghaerdydd na’u celcio mewn storfa wedi’i chatalogio’n wael heb hyd yn oed teledu cylch-cyfyng i’w cadw’n ddiogel yn Llundain,” meddai.

Galwad Groeg

Ers y newyddion, mae Hartwig Fischer, cyfarwyddwr yr amgueddfa, a’r dirprwy gyfarwyddwr Jonathan Williams wedi camu o’r neilltu.

Ers hynny eto, mae Groeg yn dweud eu bod nhw eisiau gweld Marblis Parthenon yn dychwelyd i’r wlad, gan eu bod nhw’n pryderu nad ydyn nhw’n ddiogel yn yr amgueddfa bellach.

Dyma oedd y sbardun ar gyfer galwadau tebyg yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, dydy Tarian Moel Hebog ddim yn cael ei harddangos, gan ei bod yn cael ei chadw mewn storfa.

Dadl yr Amgueddfa yw mai dyma’r lleoliad mwyaf diogel i’w chadw.

“I Gymru, i Wlad Roeg ac i lawer o wledydd oedd o dan reolaeth yr Ymerodraeth Brydeinig, mae’r ddadl honno wedi ei thanseilio’n enbyd gan y saga yma,” meddai Liz Saville Roberts, gan ddadlau mai’r penderfyniad aeddfed i’w wneud fyddai dychwelyd yr arteffactau yn ôl i wledydd eu tarddiad.

Y trysorau

Tarian copr-aloi o Oes yr Efydd yw Tarian Foel Hebog.

Cafodd ei darganfod mewn cors ger mynydd Moel Hebog yn ardal Beddgelert yn 1784, ac mae’n dyddio’n ôl i 1300-1000CC.

Clogyn aur 23 carat yw Mantell yr Wyddgrug, a chafodd ei darganfod yng nghae Bryn yr Ellyllon yn 1833.

Mae lle i gredu mai gwisg seremonïol oedd y clogyn, ac mae’n debyg fod ganddo gysylltiadau crefyddol.

Er i’r clogyn ymddangos mewn arddangosfa ar fenthyg yn yr Wyddgrug yn 2002 a 2013, fe fu galwadau i ddychwelyd y trysor i Gymru.

Mae galwadau hefyd wedi bod ar i’r amgueddfa ddychwelyd tariannau Rhos Rydd a Lunula Llanllyfni i Gymru.