Bydd menter gymunedol i brynu gwesty ym Mhwllheli yn agor cynllun cyfranddaliadau dros yr wythnosau nesaf.
Fe wnaeth cymuned Pwllheli lwyddo i godi £60,000 o fewn ychydig oriau i dalu am flaendal i brynu Gwesty’r Tŵr y llynedd.
Mae’r gwesty wedi bod ar gau ers dechrau cyfnod Covid, a bydd rhaid iddyn nhw godi gweddill yr arian – tua £400,000 – erbyn Tachwedd 23 i gwblhau’r pryniant.
Y gobaith yw y bydd tua phedwar neu bum prosiect dan un to yno, gan gynnwys gwesty, tafarn ac ystafelloedd i’r gymuned, ac o bosib bwyty a gweithdai i grefftwyr.
Adnewyddu’r stryd fawr
Mae’r adeilad wedi’i leoli yng nghanol y dref, ac ar un amser roedd yn “adeilad hollbwysig” i dwristiaeth Pwllheli, yn ôl y Cynghorydd Elin Hywel.
“Mae fy nhad, er enghraifft, yn cofio gweld un o chwaraewyr Everton yn cerdded allan drwy’r drws ffrynt pan oedd o’n hogyn bach,” meddai.
Yn fwy diweddar, bu’n westy yn ogystal ag yn gartref i dafarn y Boathouse.
“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r adeilad wedi mynd yn flêr ofnadwy ac wedi cau. Roedd yna drafferthion oherwydd Covid, amser ofnadwy i lot o fusnesau tebyg, yn lleol yn enwedig,” meddai Elin Hywel, sy’n cynrychioli Plaid Cymru yng Ngogledd Pwllheli ar Gyngor Gwynedd, wrth golwg360.
Aeth y gymuned ati i’w brynu “yn rhannol mewn ymateb i’r teimlad cyffredinol ym Mhwllheli bod y dref yn dechrau mynd yn rundown, bod y stryd fawr, fel ti’n cael mewn lot o lefydd, angen ryw fath o adnewyddu”, meddai.
“Bod y gymuned eisiau cymryd rheolaeth dros hynna a sicrhau bod y stryd fawr be rydyn ni eisiau iddi fod ar gyfer y dyfodol.
“Roedden ni’n ofnadwy o lwcus bod cymuned Pwllheli wedi gallu codi’r arian yna dros nos, bron iawn mewn ychydig oriau.”
‘Cymuned lwyddiannus’
Maen nhw bellach wedi sefydlu cwmni a phwyllgor i wneud y gwaith tu ôl i’r llenni, er bod y pwyllgorau yn agored i unrhyw un yn y gymuned.
Yn ôl Elin Hywel, mae’r ymateb yn yr ardal wedi bod yn “anhygoel”, a chafodd y pwyllgor dros 300 o ymatebion i holiadur yn holi am farn ar ddefnydd posib i’r adeilad.
“Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebion yn gadarnhaol, mae pobol eisiau iddo fo ddigwydd ac eisiau iddo fo fod yn llwyddiant,” meddai.
“Yn y pwyllgorau, roedd o’n eithaf anhygoel gweld pobol yn siarad am gymuned lwyddiannus, lle mae pobol eisiau byw, lle braf i fod, a gwneud i hynna weithio drwy greu busnes sy’n cynnig rhywbeth gwahanol i dwristiaid hefyd – gwesty o safon oedd yn adlewyrchu diwylliant Cymreig Pwllheli, tŷ tafarn cymunedol oedd yn creu lle braf i bobol fynd lle bod y gymuned yn gallu dod at ei gilydd, stafelloedd cymunedol i bobol gynnal dosbarthiadau a grwpiau reit yng nghanol dref.
“A bod hyn i gyd yn gweithio i adnewyddu’r rhan yna o’r dref i gyd.”
Mae yna bedair uned yng nghefn yr adeilad, ac un opsiwn fyddai eu cynnig nhw fel gweithdai neu siopau i grefftwyr lleol, meddai.
Ers ei sefydlu, mae’r fenter wedi bod yn cydweithio â Cymunedoli a’r Ecoamgeuddfa, ac wedi cael cefnogaeth “wych” gan Gyngor Gwynedd.
“Rydyn ni’n eithaf hyderus fedrwn ni wneud o weithio, mae’r busnes yna. Be rydyn i angen ydy’r dyhead yn y gymuned i wneud iddo fo weithio, mynd ati i adnewyddu’r adeilad,” meddai Elin Hywel.
“Mae o’n rywbeth wneith gynnal cenedlaethau yn y dyfodol, dyna ydy’r prif yrrwr.
“Mae o’n mynd i wneud gwahaniaeth, a dyna be’ mae pawb eisiau.
“Un o’r pethau oedd yn dod allan o’r cyfarfod gaethon ni yn y pwyllgor ychydig wythnosau’n ôl… y gwahaniaeth i bobol ifanc gael dod o dref lwyddiannus yn hytrach na dod o dref sy’n stryglo.”
Y bwriad ydy agor y cynllun cyfranddaliadau ar Hydref 1 er mwyn casglu gweddill yr arian ar gyfer prynu’r gwesty.