Mae’r cynlluniau i godi 30 o dai fforddiadwy newydd ym mhentref Bethel yng Ngwynedd wedi cael eu croesawu yn sgil yr “angen am dai fforddiadwy lleol”.

Mae cais wedi’i gyflwyno i adeiladu’r tai ar dir gyferbyn â Stad Cremlyn.

Pe bai’n cael ei gymeradwyo, byddai’r cynnig yn gweld tai hollol fforddiadwy i’w rhentu yn cael eu hadeiladu ar safle 1.47 hectar sgwâr sy’n cael ei ddefnyddio fel tir pori fferm ar hyn o bryd.

Byddai mynedfa newydd, ffordd fewnol a gweithfeydd cysylltiedig hefyd yn cael eu hadeiladu.

Wrth roi cyngor cyn gwneud cais, roedd penaethiaid cynllunio’n teimlo fod “ychydig iawn o amheuaeth fod yna alw lleol”, ac fe ddywedon nhw fod “cyfiawnhad” dros “nifer yr unedau sydd wedi’u cynnig yn yr achos hwn”.

Cais sy’n “dderbyniol mewn egwyddor”

O ganlyniad i’w ddynodi ar gyfer tai yn y Cynllun Datblygu Lleol, mae’r cais eisoes yn cael ei ystyried gan swyddogion cynllunio fel un sy’n “dderbyniol mewn egwyddor”.

Mae’r cais gan Williams Homes (Y Bala) Cyf a chymdeithas dai Adra yn nodi mai nod y cynllun yw “darparu tai o safon ym Methel”.

Yn ddibynnol ar argaeledd Grant Tai Cymdeithasol, byddai’r cynllun yn cynnwys cymysgedd o unedau hanner ffordd a chymdeithasol i’w rhentu.

Byddai’r rhenti hanner ffordd yn seiliedig ar Lwfan Tai Lleol neu 80% o eiddo i’w rhentu ar y farchnad agored.

“Mae’r cymysgedd cychwynnol o dai yn seiliedig ar ffigurau’n ymwneud â’r galw lleol ac yn y cyffiniau,” medd y cynlluniau.

Pe bai’r cynllun yn cael ei dderbyn, byddai’n cynnwys pedwar byngalo, tri thŷ â dwy ystafell wely ac un tŷ â thair ystafell wely.

Byddai tri thŷ teras, un â thair ystafell wely a dau â dwy ystafell wely, yn cael eu cynnwys ochr yn ochr â 17 o dai pâr.

Byddai gan unarddeg o’r rhan dair ystafell wely, byddai gan chwech ohonyn nhw ddwy ystafell wely, a byddai gan ddau ohonyn nhw bedair ystafell wely.

Byddai dau dŷ sengl â phedair ystafell wely, a phedwar fflat ag un ystafell wely hefyd.

Tai fforddiadwy i bawb

Mae’r ddogfen hefyd yn dweud y byddai’r tai yn “cynnig cymysgedd da o unedau fforddiadwy o safon ac o wahanol fathau a thirddaliadau er mwyn diwallu anghenion tai pob rhan o’r boblogaeth”.

Byddai’r tai’n “ynni-effeithlon, wedi’u hadeiladu i safon uchel ac yn darparu gofod byw digonol i fyw’n gyfoes a chyfforddus”, medd y cynlluniau.

“Mae’r cymysgedd arfaethedig yn mynd i’r afael â’r diffyg cydbwysedd yng nghyflenwad tai yr ardal, gan fod y rhan fwyaf yn gartrefi dwy neu dair ystafell wely.”

Byddai lleoliad a’r math o unedau ydyn nhw hefyd yn cynnig “datrysiad ar gyfer aelwydydd a theuluoedd iau a hŷn”, medd y cais.

Cafodd y cais ei dderbyn ar Awst 21, a bydd yr ymgynghoriad yn cau ar Fedi 9.