Mae llefarydd diwylliant, twristiaeth a chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod sefydlu awdurdod datganoli darlledu’n “wastraff arian”.
Mae Tom Giffard yn cyfeirio at fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn Awdurdod Darlledu Datganoledig Cysgodol fel “prosiect gwagedd” o ystyried nad yw darlledu wedi’i ddatganoli eto ac felly nad yw’n un o gyfrifoldebau’r Senedd ar hyn o bryd.
Daw ei sylwadau yn dilyn e-bost gan ddau aelod o staff Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) yn gwrthwynebu’r penderfyniad.
Daeth yr ebost, oedd wedi’i gyfeirio at Aelodau o’r Senedd, gan Nick Powell, cadeirydd Cyngor Gweithredol Cymru’r NUJ, a David Nicholson, sy’n aelod o Gyngor Gweithredol Cenedlaethol Cymru’r NUJ.
“Mae gan Lywodraeth Cymru’r cymhwysedd angenrheidiol i helpu i ailadeiladu newyddiaduraeth budd y cyhoedd yng Nghymru,” meddai.
“Gallai’r gyllideb a ddyrennir i ddarlledu datganoledig gael ei wario ar fesurau a fydd yn trawsnewid y sylw a roddir o Gymru i Gymry.”
Maen nhw’n poeni ynghylch effaith gwario arian cyhoeddus ar faterion y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol Llywodraeth Cymru, a’u pryder penodol yw y bydd “dirywiad parhaus yn newyddiaduraeth budd y cyhoedd yng Nghymru i’r pwynt lle bydd mwy o ardaoledd o’r wlad heb gyfryngau lleol”.
‘Ddim am newid y canlyniad’
Dywed Tom Giffard y byddai’n well ganddo weld yr arian yn cael ei fuddsoddi mewn meysydd sydd yn wynebu pwysau ariannol.
“Byddai’n well gan y Ceidwadwyr Cymreig fod yr arian yn cael ei wario ar recriwtio bron i 40 yn fwy o nyrsys, hwb sylweddol i niferoedd ein gweithlu annigonol,” meddai wrth golwg360.
Dywed nad yw’n credu y byddai sefydlu corff i edrych ar ddatganoli darlledu yn newid y canlyniadau.
“Un o’r problemau rydw i’n ei gweld gyda hyn ydi fod o ddim yn mynd i newid beth sy’n dod ma’s yn y diwedd,” meddai.
“Fydd datblygu’r Comisiwn a rhyddhau adroddiad ddim yn arwain at fwy o bwerau i Lywodraeth Cymru.”
Dywed ei fod yn credu mai’r ateb yw sicrhau’r fframwaith cywir er mwyn sicrhau mwy o raglenni Cymraeg heb orfod datganoli darlledu.
“Y peth pwysicaf, rydw i’n credu, ydi ein bod ni’n cael fframwaith cryf dros y Deyrnas Unedig, fel bod mwy o raglenni yn cael eu creu yng Nghymru, a gobeithio’n cael eu creu yn y Gymraeg,” meddai.
‘Mater rhy bwysig i’w oedi’
Serch hynny, mae sawl un wedi croesawu’r buddsoddiad ac yn dymuno gweld darlledu’n cael ei ddatganoli.
“Dylai penderfyniadau am faterion cyfathrebu a darlledu i Gymru gael eu gwneud yng Nghymru, a thra bod grym i lawer o’r cyfryngau Cymreig yn parhau i breswylio mewn gwlad arall, o dan lywodraeth arall, bydd Cymru’n dlotach fyth,” meddai Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd.
“Mae’r cyfrifoldeb nawr ar Lywodraeth Cymru i weithredu’r argymhellion yn yr adroddiad a chymryd camau ar unwaith i sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol.
“Mae hwn yn fater rhy bwysig i’w oedi.”
Dywedodd llefarydd dros Lywodraeth Cymru: “Rydym yn ystyried canfyddiadau adroddiad y panel arbenigol.”