Mae casgliad arbennig o’r Oes Efydd wedi cyrraedd Canolfan Ddiwylliant Conwy.

Mae Gwasanaeth Amgueddfeydd Conwy wedi prynu’r casgliad arbennig o arteffactau, sydd yn rhan o lên gwerin pobol yr Oes Efydd, ar ôl iddyn nhw gael eu darganfod gan Colin Rivett yn 2017 pan oedd yn defnyddio peiriant canfod metel yn Abergele.

Fe adawodd e’r rhan fwyaf o’r arteffactau wedi’u claddu yn y ddaear, ac fe gysylltodd â Mark Lodwick, Cydlynydd y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy yng Nghymru, am gyngor.

Yn fuan wedyn, cafodd archwiliad archeolegol o’r casgliad ei gwblhau gan dîm bach o arbenigwyr dan ei arweiniad, oedd yn galluogi archwiliad gofalus i gael ei gynnal ac i arbenigwyr gofnodi cyd-destun y claddu ac adfer yr arteffactau fel trysorau parhaus.

Cafodd y casgliad ei ddynodi’n drysor gan grwner fis Chwefror y llynedd, ac fe gafodd ei gludo i’r Amgueddfa Brydeinig, lle cafodd ei brisio’n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor.

Yn dilyn gweithgarwch codi arian llwyddiannus, cafodd y casgliad ei gaffael a’i drosglwyddo i Wasanaeth Amgueddfeydd y sir.

Y casgliad

Yn ôl yr Uwch Archifydd Kate Hallett, mae’r casgliad yn cynnwys “llawer o straeon hynod ddiddorol am y bobol oedd yn byw yn y rhan hon o ogledd Cymru”.

Mae’n cynnwys 13 o arteffactau sy’n deillio o ddiwedd yr Oes Efydd (1200-700CC), ac mae’n darparu tystiolaeth newydd o feddiannaeth ddiwedd yr Oes Efydd yn Sir Conwy.

Mae cysylltiadau i’w hymchwilio rhwng y casgliad a mwynglawdd copr yr Oes Efydd ar y Gogarth hefyd, sydd ryw ddeuddeg milltir o le gafodd y casgliad ei ddarganfod.

Ar ôl cadw’r arteffactau, maen nhw’n cael eu harddangos yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy, ac mae digwyddiadau estyn allan wedi’u cynllunio, yn enwedig gydag ysgolion a grwpiau lleol yn Abergele.

Pwysigrwydd yr arteffactau

Mae Kate Hallett, Uwch Archifydd Canolfan Ddiwylliant Conwy, yn dweud ei fod “yn gyffrous i gael hwn yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy, a bydd yn cael ei arddangos cyn gynted â phosibl er mwyn i bobol eraill allu ei fwynhau hefyd”.

Dywed fod yr arteffactau’n rhan o hanes a llên gwerin Conwy, gyda straeon diddorol am bobol o’r cyfnod, ac felly mae’n bwysig eu bod nhw’n cael eu harddangos yn yr ardal.

“Maen nhw’n dystiolaeth o Feddiannaeth Oes Efydd yn y rhan hon o ogledd Cymru,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n ychwanegu at y ddealltwriaeth honno o bobol yr Oes Efydd.

“Mae llawer o straeon hynod ddiddorol i’w cael am y bobol oedd yn byw yn y rhan hon o Ogledd Cymru.

“Rwy’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod yr arteffactau’n cael eu harddangos yn agos at y man ble ffeindiwyd nhw.

“Mae Abergele yn rhan o Sir Conwy, felly mae arddangosfa yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy yn golygu y gall pobol leol a phobol ymhellach i ffwrdd weld yr arteffactau.

“Rydym hefyd yn gobeithio y gall grwpiau ac ysgolion ddod.”

Cyllid

Er bod y rhan fwyaf o’r gyllideb yn dod o grantiau, daeth rhywfaint o’r arian gan yr amgueddfa hefyd.

“Buom yn ffodus,” meddai Kate Hallett wedyn.

“Fe wnaethom gais a chael dau grant gwahanol.

“Daeth un o Gronfa Grant Prynu V&A, sy’n gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Lloegr, ac Ymddiriedolaeth Headley.

“Yn llythrennol, cawsom yr holl gyllid gan y ddau gorff cyllido.

“Roedd gennym ni £250 o gyllideb yr amgueddfa, felly fe dalon nhw am tua 90% o’r gost, oedd yn hael.”

Mae’r Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Diwylliant a Hamdden Conwy, hefyd wedi diolch i’r arianwyr “am ein galluogi i gaffael y casgliad gwych hwn i bobol Sir Conwy er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau”, ac i Amgueddfa Cymru am eu cefnogaeth.