Mae disgwyl i gynlluniau ar gyfer ystad newydd o 54 o dai mewn pentref glan môr yn ne Sir Benfro gael eu cymeradwyo gan gynllunwyr y parc cenedlaethol, gydag amod sy’n cyfyngu 13 ohonyn nhw fel na fyddan nhw’n ail gartrefi.
Morgan Construction (Cymru) Cyf a Chymdeithas Dai Barcud sydd wedi gwneud y cais ar gyfer cyfuniad o 27 o dai a 27 o fflatiau, ynghyd â gweithfeydd cysylltiedig, ar dir amaethyddol i’r gogledd o bentref Whitlow ger Saundersfoot.
Mae’r cais, sy’n cynnwys cymysgedd o 19 o eiddo fforddiadwy – sy’n ateb gofynion ardal Saundersfoot o 35% o eiddo o’r math yma – yn destun argymhelliad i’w gymeradwyo’n amodol pan ddaw gerbron cynllunwyr Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yng nghyfarfod y pwyllgor rheoli datblygiad ar Fedi 6.
Doedd Cyngor Cymuned Saundersfoot ddim wedi derbyn unrhyw wrthwynebiad i’r cynlluniau, ac eithrio pryderon am y posibilrwydd y gallai’r eiddo gael eu gwerthu fel ail gartrefi.
Cafodd sawl llythyr o wrthwynebiad eu derbyn, a’r rheiny’n mynegi pryderon oedd yn cynnwys y posibilrwydd y gallai’r preswylfeydd newydd ddod yn llety gwyliau, colli preifatrwydd i eiddo cyfagos, colli golygfeydd a’r effaith ar werth eiddo presennol.
Dywedodd adroddiad ar gyfer y cynllunwyr fod yna dybiaeth y gallai ychydig yn llai na 29% o eiddo yn Saundersfoot gael eu categoreiddio fel ail gartrefi neu lety gwyliau, allai arwain at 71% o’r fflatiau’n destun amod prif breswylfa arnyn nhw – a’r rheiny ymhlith y rhai mwyaf tebygol o gael eu hystyried fel y rhai mwyaf addas i fod yn ail gartrefi.
Byddai hynny’n golygu bod 13 o’r 19 fflat ar y farchnad agored yn destun amod ‘C3’ ar gyfer prif ddefnydd, ar wahân i’r gofynion ynghylch tai fforddiadwy.
‘Ymateb positif’
Mewn datganiad ategol, dywed yr asiant Evans Banks Planning Cyf fod ymholiad i’r parc cenedlaethol cyn gwneud cais wedi arwain at ymateb positif oedd wedi arwain at y cais ffurfiol.
“Mae’r cynigion wedi bod yn destun cryn drafodaeth gyda swyddogion Awdurdod y Parc Cenedlaethol cyn gwneud cais,” meddai.
“Daeth hi’n amlwg fod yr Awdurdod yn disgwyl bodloni capasiti’r hyn sydd wedi’i neilltuo ac sydd wedi’i ddangos yn y Cynllun Datblygu Lleol yn llawn.
“Gall y fath ddisgwyliadau olygu heriau pe bai’n rhaid ffurfio’r safle dros dopograffi bryniog a chwmpasu mesurau dŵr arwyneb oedd yn bodloni meini prawf y dyfodol o ran yr Awdurdod Mabwysiadu.
“Mae’r cynllun wedi esblygu o gysyniadau cychwynnol, lle’r oedd pwyslais ar lai o ddwyster er mwyn adlewyrchu cymeriad lled-drefol, ymyl pentref y safle.
“Er mwyn sicrhau capasiti o 54 uned, fel sydd wedi’i ddyfynnu yn y Cynllun Datblygu Lleol, all hyn ddim ond gael ei wireddu pe bai fflatiau preswyl yn cael eu cyflwyno fel cyfran sylweddol o’r cymysgedd o fathau o unedau.
“Felly mae cyfanswm o 27 o fflatiau wedi cael eu cyflwyno yn y datblygiad er mwyn sicrhau bod y 27 preswylfa sy’n weddill yn cael digon o gyfleusterau a lle i barcio.”
Mae argymhelliad y dylid cymeradwyo’r cais, gyda rhestr o amodau’n cynnwys cyfyngiad ‘C3’.