Dylai’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol fod yn hygyrch i bawb, yn ôl un sy’n gweithio i’r sefydliad.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol leoliadau a safleoedd yng Nghymru sy’n hygyrch ar gyfer coetsys a chadeiriau olwyn, ac mae eu Hymgynghorydd Cefnogaeth Tyfu yn teimlo’n danbaid dros hygyrchedd yn y llefydd maen nhw’n gofalu amdanyn nhw.
Mae gwaith i’r perwyl hwn ar y gweill, meddai Jon Hignett, Ymgynghorydd Cefnogi Twf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, wrth siarad â golwg360.
Hygyrch i bawb
Os ydych yn chwilio am leoliadau sy’n addas ar gyfer coetsys er mwyn mwynhau diwedd y gwyliau haf gyda’r teulu, neu’n dymuno mynd am dro mewn lleoliadau sy’n hygyrch ar gyfer cadeiriau olwyn, mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gasgliad o’r teithiau cerdded mwyaf hygyrch.
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dymuno i bawb allu cael mynediad i’r llefydd maen nhw’n gofalu amdanyn nhw ledled Cymru.
Tra bod hyn yn fwy heriol mewn rhai lleoliadau nag eraill, mae’r elusen gadwraethol wedi creu casgliad o lwybrau hygyrch sydd wedi’u dethol oherwydd eu bod ar dirwedd lyfn, wedi eu cynnal i safon uchel, a heb gamfeydd.
Mae modd benthyg cadair olwyn ar gyfer y traeth, er mwyn mwynhau’r tywod yn ne Aberllydan, neu sgwter symudedd er mwyn archwilio’r parcdiroedd yng Nghastell y Waun neu Dŷ Tredegar, er enghraifft.
Neu fe allwch chi ddilyn llwybr gafodd ei adeiladu’n bwrpasol ar gyfer hygyrchedd o amgylch y llyn ar Ystâd Dolmelynllyn, neu fwynhau’r cyfle i fod yn agos at fyd natur ar lwybr pren cwbl hygyrch yn Ninefwr.
Adeiladau hygyrch
Mae Jon Hignett yn cydnabod ei bod hi’n anodd sicrhau hygyrchedd llwyr oherwydd bod rhai adeiladau, megis cestyll, yn hen iawn.
Dydy’r adeiladau yma heb eu hadeiladu i fod yn hygyrch ar gyfer pawb, meddai, ac mae’n costio llawer i’w haddasu.
Drwy gydweithio â grwpiau fel Anabledd Cymru, maen nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu i’w gwneud yn hygyrch i bawb.
“Un o’r pethau allweddol yw y dylai’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol fod ar gyfer pawb,” meddai Jon Hignett wrth golwg360.
“Mae’n rywbeth sy’n wirioneddol bwysig i ni.
“Rwy’n meddwl eto, gall hynny fod mor anodd ar rai safleoedd.
“Rydym yn gofalu am amrywiaeth mor eang o eiddo.
“Cestyll yw rhai o’r eiddo rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw yng Nghymru, gyda rhannau o’r adeilad dros 700 mlwydd oed.
“Mae gwneud castell yn hygyrch yn anodd iawn.
“Mae llawer o’n hadeiladau yn Radd Un neu’n rhestredig, mewn tirweddau sensitif iawn.
“Mae’n her logistaidd a chynllunio hefyd i gyflawni hyn mewn mannau, ond mae’n rywbeth rydym am roi’r gwaith i mewn iddo.
“Yn amlwg, mae’n ddrud iawn hefyd i gael y safleoedd rydym yn gofalu amdanyn nhw i fyny i safonau hygyrchedd modern, a dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn gweithio gyda grwpiau fel Anabledd Cymru fel y gallan nhw helpu i nodi’r newidiadau y dylem fod yn eu gwneud, a’r pethau maen nhw eisiau eu gweld, oherwydd maen nhw’n sensitif i’r ffaith fod y rhain yn adeiladau hen iawn.
“Ni allwn eu trin nhw fel pe baen nhw’n adeiladau newydd modern, gyda’r lefel honno o hygyrchedd ynddyn nhw.”
Dulliau yn wahanol ar wahanol safleoedd
Gyda dulliau’n amrywio oherwydd bod y safleoedd yn wahanol i’w gilydd, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ceisio cyrraedd safon eiddo sydd weithiau’n hawdd, ac ar adegau eraill yn anodd ei gyrraedd.
“Mae’n amrywio’n fawr o leoliad i leoliad,” meddai Jon Hignett wedyn.
“Yng Nghymru yn unig, mae gennym ni safleoedd gwledig, safleoedd arfordirol, eiddo adeiledig a gerddi, felly mae’n anodd cael un dull sy’n addas i bob man.
“Mae gennym set o safonau mynediad rydym yn gweithio tuag atyn nhw sy’n cychwyn ar lefel sylfaenol iawn, ac yna’n symud pethau ymlaen.
“Rydyn ni’n ceisio cael eiddo o leiaf i fod efo trefn ar yr holl bethau sylfaenol i ni gael symud ymlaen o’r fan honno.
“Mae gennym ni lefel efydd, arian ac aur rydym yn gweithio tuag atyn nhw.
“Weithiau, gall fod yn anodd iawn cael yr eiddo i’r lefelau sylfaenol hynny, ac maen nhw’n cymryd llawer o waith.
“Mae’n eithaf syml mewn mannau eraill.
“Mae’n rhaid inni edrych ar bob safle, gweld beth yw’r problemau, a llunio cynllun i fynd i’r afael â’r rheiny.
“Mae gennym ni bobol yn fewnol sy’n edrych ar y pethau hynny.
“Eleni, rydyn ni’n partneru ag Anabledd Cymru, sy’n edrych ar rai o’n safleoedd ac yn ein helpu i nodi ble mae’r problemau, neu le mae pethau y gallem eu newid, a allai wneud gwahaniaeth i bobol.”
Cadw’n gyfredol
Mawr yw’r ymdrech i gadw safonau, a’u cadw’n gyfredol hefyd.
“Fe allwn i roi rhai manylion i chi o’r adeg roeddwn i’n arfer gweithio yn Y Waun, Chirk House ger Wrecsam, ond o ran Cymru gyfan mae’r timau’n gweithio bob blwyddyn i geisio gwneud gwelliannau,” meddai Jon Hignett wedyn.
“Yn gyntaf i gyrraedd y lefelau sylfaenol hyn, a hefyd i gadw pethau’n gyfredol.
“Oherwydd ein bod ni wedi ychwanegu rhywbeth rydyn ni’n meddwl sy’n ei wneud yn fwy hygyrch, mae’n rhaid i chi wedyn ei gadw’n gyfredol, mae’n rhaid i chi ofalu amdano.
“Os yw’n gerbyd, mae’n rhaid i chi ei wasanaethu.
“Mae’n broses barhaus.”
Wrth gynllunio ar gyfer ymweliad, gwiriwch wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol am wybodaeth ynghylch hygyrchedd pob safle.