Mae tua 40% o berchnogion cŵn yn poeni y bydd y gaeaf eleni’n galetach na’r llynedd.
Yn ôl arolwg newydd gan yr Ymddiriedolaeth Cŵn, mae pedwar ym mhob deg perchennog ci yn y Deyrnas Unedig yn ofni y bydd hi’n anoddach darparu ar gyfer eu cŵn eleni.
Ar ôl cael mwy o gwestiynau nag erioed gan bobol yn holi am gael gwared ar eu cŵn y llynedd, fe wnaeth yr elusen geisio darganfod a yw pobol yn disgwyl i’r gaeaf hwn fod yn waeth.
Dim ond 20% o’r bobol gafodd eu holi sydd heb bryderon ariannol ar gyfer edrych ar ôl eu cŵn, tra bod 9% yn dweud eu bod nhw’n “poeni llawer”.
Dywedodd bron i hanner (46%) y rhai gafodd eu holi mai biliau trydan a nwy yw eu prif reswm dros boeni, tra bod 23% yn poeni am fwyd.
Mae 11% yn poeni am eu taliadau morgais.
Yn ôl yr arolwg, mae 49% o’r perchnogion yn poeni am filiau milfeddygol eu cŵn, 12% yn poeni am yswiriant i’w hanifeiliaid anwes, a 12% yn poeni am gostau bwyd ci.
‘Miloedd yn ffonio bob dydd’
Dywed Owen Sharp, Prif Weithredwr yr ymddiriedolaeth, fod nifer yr ymholiadau gan bobol yn sôn am gael gwared ar eu cŵn wedi gostwng dros yr haf, ond fod miloedd o bobol yn dal i’w ffonio nhw bob dydd.
“Mae canlyniadau ein pôl yn ein hatgoffa i beidio â chael ein hudo i feddwl y bydd popeth yn iawn,” meddai.
“Mae perchnogion cŵn wedi dweud yn glir eu bod nhw’n poeni y bydd y gaeaf hwn yn galetach na’r diwethaf, felly plîs peidiwch ag aros nes bod y tywydd oer yn cyrraedd cyn gofyn am help.”