Jane Richardson, sydd wedi bod yn Gadeirydd Cadw ers pedair blynedd, ydy Prif Weithredwr newydd Amgueddfa Cymru.

Tan yn gynharach eleni, hi oedd Cyfarwyddwr Economi a Lle Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, gan arwain ar brosiectau fel creu canolfan ddiwylliannol newydd yn nhref Conwy.

Mae gan Jane Richardson, sy’n byw yn Llandudno gyda’i gŵr a’u dau o blant, dros ugain mlynedd o brofiad o weithio mewn rolau arwain yn y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector.

Bu’n Gyfarwyddwr Croeso Cymru am gyfnod, a bu’n gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am ddeng mlynedd cyn hynny’n rheoli eiddo hanesyddol ac arwain ar brofiad ymwelwyr ledled Cymru.

‘Braint’

Dywed Jane Richardson, fydd yn dechrau’r rôl yn rhan amser ar Fedi 11 ac yna’n llawn amser fis Tachwedd, ei bod hi’n “fraint” cymryd y rôl.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Bwrdd a’r tîm i sicrhau ein bod yn dod â’n casgliadau’n fyw mewn ffyrdd sy’n adrodd straeon holl gymunedau Cymru,” meddai.

Bydd y Prif Weithredwr yn gyfrifol am gynnig ysbrydoliaeth, uchelgais, creadigrwydd ac arweiniad strategol i’r sefydliad a’r saith canolfan dros Gymru, medd Amgueddfa Cymru.

Mae’r penodiad yn dilyn cyhoeddiad am y cadeirydd newydd Kate Eden, a’r is-gadeirydd newydd Rhys Evans, fydd yn ymuno â’r sefydliad ym mis Medi a Hydref hefyd.

‘Dechrau cyfnod newydd’

Dywed Carol Bell, y Llywydd dros dro, fod hwn yn ddechrau cyfnod newydd i’r Amgueddfa.

“Bydd ei sgiliau strategol a’i dawn fel arweinydd, sy’n amlwg o’i phrofiad, yn amhrisiadwy mewn cyfnod o newid mawr a fydd yn llawn heriau a chyfleoedd o fewn a thu hwnt i waliau ein hamgueddfeydd,” meddai.

“Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn edrych ymlaen at gydweithio i gyflawni Strategaeth 2030 ar gyfer cymunedau ledled Cymru a’n hymwelwyr o’r tu allan i Gymru.”