Mae cynghorydd Llafur wedi ymddiswyddo ar ôl tanio ffrae tros gofio holocost y Sipsiwn a thrafodaethau ynghylch cynlluniau ar gyfer safleoedd i Deithwyr yng Ngwent.

Roedd Sara Burch wedi bod yn gyfrifol am ymdrechion Cyngor Sir Fynwy i adnabod tir allai gael ei ddefnyddio ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr, ond ddechrau mis Awst roedd hi’n feirniadol o David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru, a chynghorydd arall tros gyfarfod cyhoeddus gafodd ei alw i drafod dau ddarn o dir oedd dan ystyriaeth.

Daeth cadarnhad heddiw fod Mary Ann Brocklesby, arweinydd Llafur yn Sir Fynwy, wedi derbyn ymddiswyddiad y Cynghorydd Sara Burch o’i rôl yn y Cabinet sy’n werth £15,330 ychwanegol y flwyddyn ar ben y £16,800 sy’n cael ei dalu i bob cynghorydd.

“Gyda thristwch heddiw, dw i wedi derbyn ymddiswyddiad y Cynghorydd Sara Burch o’i rôl fel Aelod Cabinet tros Gynhwysiant a Chymunedau Gweithgar,” meddai’r Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, oedd wedi penodi’r Cynghorydd Sara Burch yn Aelod o’r Cabinet pan ddaeth Llafur i rym yn Neuadd y Sir fis Mai y llynedd.

“Dw i’n cydnabod ei hedifeirwch gwirioneddol a’i hymddiheuriad am ei neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn cysylltu gweithredoedd David TC Davies a’r Cynghorydd Frances Taylor ag agweddau ar yr holocost.

“Roedd yn amhriodol ac yn annerbyniol.”

Y neges

Mewn neges ar X (Twitter) sydd bellach wedi cael ei dileu, roedd hi’n cyhuddo Aelod Seneddol Ceidwadol Mynwy a’r Cynghorydd Frances Taylor, cadeirydd y cyfarfod, o “greu teimladau gwrth-Deithwyr”.

Postiodd hi ar ddechrau’r cyfarfod yn Eglwys y Bedyddwyr ym Magwyr, gan ddweud ei bod yn “gywilyddus” fod y cyfarfod yn cael ei gynnal cyn ymgynghoriad ffurfiol y Cyngor, a thynnodd hi sylw at y ffaith fod Awst 2 yn ddiwrnod cofio rhyngwladol ar gyfer holocost Roma a Sinti.

Dyma’r dyddiad pan wnaeth y Natsïaid lofruddio miloedd o bobol Roma a Sinti gafodd eu cadw yng ngwersyll Auschwitz yn 1944.

Roedd David TC Davies, a’r cynghorwyr Frances Taylor a Richard John, arweinydd grŵp Ceidwadol Cyngor Sir Fynwy, i gyd wedi beirniadu sylwadau’r Cynghorydd Sara Burch, tra bod Cyngor Sir Fynwy yn dweud iddyn nhw dderbyn “nifer o gwynion”, a’u bod nhw wedi eu cyfeirio nhw at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, sy’n goruchwylio ymddygiad cynghorwyr.

Cefndir

Fis Gorffennaf, cafodd rhestr fer o bum safle i’w cynnwys yng nghynllun datblygu lleol newydd y Cyngor – sy’n clustnodi tir ledled y sir sy’n addas ar gyfer gwaith a thai, gan gynnwys safleoedd Sipsiwn a Theithwyr – ei gwtogi i dri yn dilyn beirniadaeth gan bwyllgor trawsbleidiol fod yr holl safleoedd yn anaddas.

Ond mae Clôs Langleu ym Magwyr a Dancing Hill yn Undy gerllaw, ill dau, yn dal dan ystyriaeth, gyda disgwyl y bydd adroddiad yn mynd gerbron y Cabinet fis nesaf.

Byddai gofyn wedyn iddyn nhw benderfynu a ddylid cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar gynnwys y safleoedd yn y cynllun datblygu.

Neges “gwbl warthus”

Bydd y Cynghorydd Sara Burch, sy’n cynrychioli Cantref ger y Fenni, yn parhau i fod yn gynghorydd sir, ond dywed y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby y bydd hi’n rhedeg Cabinet llai, gyda dim ond saith aelod yn hytrach nag wyth.

Bydd y dirprwy arweinydd Paul Griffiths, sydd eisoes yn gyfrifol am gynllunio a datblygiad economaidd, yn derbyn cyfrifoldeb am dai, gan gynnwys ’materion yn ymwneud â Sipsiwn, Roma a Theithwyr’, yn ogystal â digartrefedd a thai fforddiadwy, tra bydd Angela Sandles, yr Aelod tros Ddwyrain Magwyr ac Undy a’r Aelod Cabinet tros gydraddoldeb ac ymgysylltu, yn gyfrifol yn ychwanegol am ganolfannau hamdden, chwarae a chwaraeon, datblygu twristiaeth, strategaeth ddiwylliannol a thoiledau cyhoeddus.

Bydd briff y Cynghorydd Catrin Maby (newid hinsawdd a’r amgylchedd) bellach yn cynnwys teithio actif a hawliau tramwy.

Er iddi “fynegi edifeirwch” ynghylch y neges, roedd David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru, wedi cwyno nad oedd e na’r Cynghorydd Frances Taylor wedi derbyn ymddiheuriad, ac mae’n dweud iddo ysgrifennu at y Cynghorydd Sara Burch gan nodi ei fod yn credu bod ei geiriau’n “faleisus a difenwol” i bobol Magwyr oedd, meddai, wedi mynegi “pryderon rhesymol” ynghylch y cynigion posib.

Clywodd David TC Davies yn gynharach y mis yma na fydd e’n wynebu camau troseddol ynghylch taflenni roedd e wedi’u dosbarthu yn gynharach yn yr ymgynghoriad ynghylch safleoedd posib ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr.

“Roedd y neges sydd bellach wedi cael ei dileu’n gwbl warthus,” meddai yn ei lythyr.

“Fel cadeirydd y cyfarfod, aeth y Cynghorydd Frances Taylor allan o’i ffordd i egluro nad oedd unrhyw arlliw o ragfarn am fod.”

Neges “sarhaus a maleisus dros ben”

“Ar nodyn personol, ces i’r neges gan y Cynghorydd Burch yn un sarhaus a maleisus dros ben,” meddai’r Cynghorydd Frances Taylor wrth y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol.

“Does dim sail i’w sylwadau o ran y gwirionedd, ac mae’r bwriad yn teimlo’n hynod bryderus.

“Mae disgwyl bob amser i aelodau etholedig ymddwyn â gonestrwydd, felly roedd yn dristwch i mi weld rhywbeth o’r natur yma’n dod gan gynghorydd arall sydd hefyd yn Aelod o’r Cabinet.

“Dw i’n cymryd fy rôl yn hynod ddifrifol, a bob amser yn ceisio gwasanaethu Magwyr ac Undy a phobol Sir Fynwy hyd eithaf fy ngallu.”

Ychwanega fod “nifer” o drigolion Magwyr wedi awgrymu wrthi eu bod nhw wedi cael neges y Cynghorydd Sara Burch yn annerbyniol a’i bod hi wedi tanseilio hyder yn y Cyngor.

“Mae hi’n bwysig cofio fod y safleoedd dan ystyriaeth eisoes wedi cael eu gwrthod gan y Pwyllgor Craffu fel rhai anaddas,” meddai’r Cynghorydd Frances Taylor, sy’n arwain y grŵp annibynnol.

“Yn olaf, mae pryder gwirioneddol am golli tir glas yn barhaus i ddatblygiadau.”

‘Colled ar ei hôl hi’

“Bydd colled ar ôl y Cynghorydd Burch yn y Cabinet,” meddai’r arweinydd Mary Ann Brocklesby.

“Bu’n aelod ymroddedig sydd wedi gweithio’n galed, ac a oedd eisoes wedi gwneud gwahaniaeth wrth symud ymlaen â’n blaenoriaethau o ran tai fforddiadwy a theithio actif.

“Dw i’n parhau i werthfawrogi ei ffyddlondeb a’i chefnogaeth ddi-wyro i weinyddiaeth Llafur Cymru ar y Cyngor Sir.”

 

Cynghorydd mewn dŵr poeth ar ôl cyhuddo Ysgrifennydd Cymru o wrthwynebu Sipsiwn a Theithwyr

Twm Owen, Gohebydd Democratiaeth Leol

Dywed Sara Burch ei bod hi’n difaru’r sylwadau wnaeth hi ar y cyfryngau cymdeithasol