Mae archfarchnad CKs wedi cael eu cyhuddo o fod yn “gwmni Cymreig sydd ddim yn dangos parch i’r gymuned” ac o feddu ar “agweddau Oes Fictoria” tuag at y Gymraeg.

Daw hyn ar ôl iddyn nhw dynnu arwyddion dwyieithog oddi ar siop yn Waunfawr ger Aberystwyth, a gosod arwyddion newydd uniaith Saesneg yn eu lle.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gosod sticeri ‘Ble Mae’r Gymraeg?’ ar yr arwyddion newydd hyn.

“Mae CKs yn gwmni Cymreig sydd ddim yn dangos parch i’r gymuned,” medd dau sydd yn byw yn Aberystwyth ac sydd wedi cysylltu â’r cwmni am yr arwyddion.

“Maen nhw wedi tynnu arwyddion dwyieithog i lawr a rhoi rhai Saesneg lan yn lle. Mae hyn yn hollol warthus!

“Mae’r siop yma yn cael ei ddefnyddio’n aml gan y gymuned leol, gan gynnwys myfyrwyr.

“Mae arwyddion Cymraeg yn symbol bod y Gymraeg yn dal i fyw, ac mae angen parhau i frwydro i gael y Gymraeg yn weladwy yn ein cymdeithas.”

‘Agweddau Oes Fictoria’

Yn ôl Aled Powell, is-gadeirydd grŵp Hawl i’r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith, mae defnyddio “pytiau o Gymraeg… yn docenistig ar y gorau beth bynnag”, a hynny “am nad oes rhaid iddyn nhw wneud unrhyw beth i barchu’n hiaith ni”.

“Tra bod defnydd o’r Gymraeg yn cynyddu a chael ei hyrwyddo yn eang, mae sawl cwmni mawr sy’n elwa o wneud busnes yng Nghymru wedi dweud na fyddan nhw’n cynnig unrhyw wasanaeth Cymraeg nes bod rhaid iddyn nhw,” meddai.

“Ond mae hyn yn mynd cam ymhellach – ac yn erbyn y llif.

“Pam troi’r cloc yn ôl i arferion ac agweddau Oes Fictoria gydag arwyddion uniaith Saesneg?

“Mae gan y siop yma ganghennau eraill yng Nghymru. Ai’r bwriad yw cael gwared ar y Gymraeg o ganghennau eraill hefyd?

“Mae’n siomedig fod cymaint o alw am ein sticeri “Ble mae’r Gymraeg?” ond mae eu gosod nhw’n ffordd hawdd a chyflym o ddwyn sylw at fethiannau ac mewn nifer o achosion yn arwain at ailystyried.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan yr archfarchnad.