Gallai cynghorydd blaenllaw wynebu ymchwiliad, ar ôl iddi gyhuddo Ysgrifennydd Cymru a chynghorydd arall o “greu teimladau gwrth-Deithwyr”.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cadarnhau eu bod nhw wedi derbyn “nifer o gwynion” ynghylch sylw gafodd ei wneud ar y cyfryngau cymdeithasol gan y Cynghorydd Sara Burch, yr Aelod Cabinet Llafur â chyfrifoldeb tros ymdrechion y Cyngor i ddod o hyd i safleoedd posib ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn y sir.

Dywed y Cynghorydd Sara Burch, yr Aelod Cabinet Llafur dros gymunedau cynhwysol a gweithgar y mae ei chyfrifoldebau’n cynnwys tai, yn dweud ei bod hi’n “difaru” y datganiad roedd hi wedi’i bostio ar y wefan gymdeithasol Twitter / X.

Roedd hi wedi rhannu’r sylw gyda neges gan y grŵp ymgyrchu Travelling Ahead yn cofio am holocost pobol Roma a Sinti.

Yn y neges sydd bellach wedi cael ei dileu, mae’r Cynghorydd Sara Burch yn cyhuddo David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru ac Aelod Seneddol Mynwy, a Frances Taylor, arweinydd grŵp annibynnol y Cyngor, o bentyrru rhagfarn yn erbyn Teithwyr.

Cafodd ei phostio wrth i’r Cynghorydd Frances Taylor gadeirio cyfarfod cyhoeddus yng Nghapel Bedyddwyr Magwyr ar Awst 2 – cyfarfod roedd David TC Davies wedi mynd iddo ac a gafodd ei alw i drafod ystyriaeth barhaus y Cyngor Sir o safle ym Magwyr, yng Nghlôs Langley a Dancing Hill yn Undy fel safleoedd posib ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr.

Mae disgwyl i’r Cabinet benderfynu ym mis Medi a ddylen nhw gyflwyno’r safleoedd ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch a ddylen nhw gael eu rhestru yn y cynllun datblygu lleol newydd fel rhai sy’n addas fel safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr.

Wrth rannu’r trydiad o Travelling Ahead Cymru, oedd yn nodi Awst 2 fel pen-blwydd llofruddiaeth miloedd o bobol Roma a Sinti yng ngwersyll grynhoi Auschwitz, ychwanegodd y Cynghorydd Sara Burch ei sylwadau ei hun, gan ddweud: “Cywilyddus ar y diwrnod hwn fod @Frances4Magor a @DavidTCDavies allan yn creu teimladau gwrth-Deithwyr ym #magorwithundy cyn ymgynghoriad ar safleoedd y dyfodol.”

Amddiffyn y cyfarfod

Mae David TC Davies – gafodd wybod yn gynharach y mis yma na fyddai’n wynebu camau gan yr heddlu tros daflenni roedd e wedi’u dosbarthu yn ystod cam cynharach o ymgynghoriad y Cyngor ar safleoedd posib ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr – wedi amddiffyn y cyfarfod.

“Pe bai’r Cynghorydd Burch wedi trafferthu i fynd i’r cyfarfod ei hun, byddai hi wedi’i gael yn llawn pobol leol yn mynegi pryderon gwirioneddol,” meddai.

“Yn sicr, doedd neb yn siarad â chasineb.”

Mae’r Cynghorydd Richard John, arweinydd y grŵp Ceidwadol ar Gyngor Sir Fynwy, wedi galw ar i’r Cynghorydd Sara Burch ymddiswyddo neu gael eu diswyddo o Gabinet Llafur tros yr hyn mae’n ei alw’n “gyhuddiadau di-sail a maleisus”.

“Mae cysylltu mynychu cyfarfod cyhoeddus â dileu miloedd o Sipsiwn Roma yn ystod yr Holocost yn erchyll, ond mae gwneud hynny er buddiannau rhagfarnllyd cul yn ffiaidd,” meddai.

“Roedd y trydariad hwn yn hynod sarhaus, a dw i’n credu bod safle’r Cynghorydd Burch fel Aelod Cabinet sy’n arwain y broses o adnabod safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn gwbl anghynaladwy.

“Dw i’n meddwl y dylai hi ymddiswyddo o’i rôl neu gael ei diswyddo gan arweinydd ei grŵp, a chael colli chwip Llafur yn ddibynnol ar ymchwiliad.”

Dywedodd y Cynghorydd Richard John, oedd yn y cyfarfod hefyd, fod y ddadl wedi’i harwain mewn “ffordd broffesiynol a sensitif”.

Dywedodd y cynghorydd – oedd wedi siarad yn gynharach yn y broses yn erbyn y posibilrwydd o safleoedd yn ei ward ym Mitchell Troy a Thryleg yn cael eu cynnwys yng nghynlluniau’r Cyngor – y dylid chwilio am safleoedd posib “mewn ffordd dawel, gytbwys a pharchus gan ganolbwyntio ar addasrwydd y safleoedd, mynediad a phryderon amgylcheddol yn hytrach na rhagfarnau.”

Ymateb

Mae llefarydd ar ran Cyngor Sir Fynwy wedi cadarnhau eu bod nhw wedi derbyn “nifer o gwynion” am neges y Cynghorydd Sara Burch, ond maen nhw’n dweud nad oes modd iddyn nhw ymchwilio i ymddygiad aelodau, a’u bod nhw yn hytrach yn cyfeirio pobol at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Dywed llefarydd ar ran Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru nad oes ymchwiliad ar y gweill ar hyn o bryd.

Mewn datganiad, dywed y Cynghorydd Sara Burch, sy’n cynrychioli ward Cantref, Y Fenni, ei bod hi’n “difaru’r trydariad ac wedi ei ddileu”.

“Gan fod cwynion ffurfiol wedi’u gwneud yn ei chylch, dw i’n wynebu proses gwyno,” meddai.

“Mae’r gwaith o ddewis safleoedd ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn mynd rhagddo, fel sydd wedi’i amlinellu yn fy natganiad i’r Cabinet ac yn dilyn argymhellion y pwyllgor craffu.”

Ddiwedd mis Gorffennaf, dywedodd y Cynghorydd Sara Burch wrth y Cabinet fod y gwaith o ystyried y ddau safle yn Undy ar y gweill, gyda phenderfyniad ynghylch a ddylid cyflwyno’r safleoedd ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus i ddod ym mis Medi, tra nad yw pwyllgor craffu’r Cyngor wedi argymell yr un o’r safleoedd dan ystyriaeth fel rhai addas, ac y dylai’r Cyngor ddechrau o’r dechrau i chwilio.

Mae’r Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol wedi cysylltu â’r Cynghorydd Frances Taylor am ymateb.