Mae Wcráin yng nghanol rhyfel ffyrnig yn erbyn Rwsia wrth iddi frwydro am ei dyfodol fel cenedl annibynnol, ond mae un aelod o’r gymuned Wcreinaidd yn Abertawe wedi dweud wrth golwg360 fod eu hiaith a’u diwylliant “wedi goroesi, yn bodoli ac yn ffynnu”.
Daeth y gymuned Wcreinaidd ynghyd yn Abertawe ddydd Iau (Awst 24) i ddathlu 32 o flynyddoedd ers i’r wlad dorri’n rhydd o’r Undeb Sofietaidd gan ennill ei hannibyniaeth a chydnabyddiaeth fel cenedl annibynnol.
Mae’r cyfan dan fygythiad ers 2014 pan ymosododd Rwsia ar y wlad, ac mae’r gwrthdaro wedi dod yn ffyrnicach ers mis Chwefror y llynedd.
Gyda miloedd o Wcreiniaid wedi gorfod ffoi o’r wlad ers hynny, daeth nifer sylweddol ohonyn nhw i Gymru.
Ond un fu’n byw yma ers degawd bellach yw Dr Dmitri Finkelshtein, cadeirydd yr elusen Sunflowers Wales sy’n anfon cymorth yn ôl i Wcráin i dalu am nwyddau meddygol hanfodol i filwyr a phobol gyffredin sydd wedi’u dal yng nghanol y rhyfel.
‘Llawer mwy i annibyniaeth na statws ffurfiol’
Wrth siarad â golwg360, dywed Dr Dmitri Finkelshtein mai Awst 24 “fwy na thebyg yw diwrnod pwysica’r flwyddyn” i Wcreiniaid.
“Rydym yn nodi ein hannibyniaeth, yn croesawu ein hannibyniaeth ac rydyn ni’n hapus,” meddai.
“Mae’r rhyfel yn ymwneud â’r ffaith nad yw’r Rwsiaid eisiau gadael i ni fod yn genedl ac yn genedl annibynnol.
“Ond mae annibyniaeth yn llawer mwy na statws ffurfiol y wlad.
“Mae’n ymwneud â’r posibilrwydd o gynnal a chadw ein diwylliant, ein hunaniaeth a gallu siarad ein hiaith.
“Mae’n ymwneud â’r posibilrwydd y bydd ein plant yn gallu galw eu hunain yn Wcreiniaid.
“Dyna pam fod yr annibyniaeth gawson ni’n ffurfiol 32 o flynyddoedd yn ôl yn cynrychioli hanes hir Wcráin, ac mae’n ymwneud ag ailsefydlu’r wlad oedd ar fap Ewrop erioed.
“Am nifer o flynyddoedd cyn 1991, roedd ymgais gan Ymerodraeth Rwsia ac yna’r Undeb Sofietaidd i’w dileu oddi ar y bwrdd fel bod pobol yn dechrau anghofio beth yw Wcráin – gwlad a lle.
“Mae rhannau gwahanol o Wcráin wedi bod o dan wahanol ymerodraethau yn hanesyddol, ond tir Wcreinaidd oedd e o hyd, ac roedd pobol yn dal i fod yn Wcreiniaid o ran eu hunaniaeth.
“Roedd gan bobol ddiwylliannau gwahanol, ond roedden nhw bob amser yn unedig o ran eu gwreiddiau.
“Mae annibyniaeth, felly, yn ymwneud â bod yn genedl go iawn.”
‘Dathlu, nid nodi’
Gyda’r rhyfel yn mynd rhagddo, ydy teimladau Wcreiniaid am ddathlu eu hannibyniaeth wedi newid, ac a ydyn nhw’n gallu dathlu go iawn?
“Byddwn i’n dweud dathlu,” meddai Dr Dmitri Finkelshtein wedyn.
“Er gwaetha’r ffaith fy mod i yma ac nid yn Wcráin – dw i wedi bod yma ers deng mlynedd – dw i’n gweld ein milwyr ac nid dim ond yr hyn welwch chi ar y teledu, y gwaed a marwolaeth, yw’r rhyfel.
“Mae ein milwyr yn ceisio defnyddio unrhyw eiliad o orffwys sydd ganddyn nhw i chwerthin ac i ddathlu ac i nodi’r pethau sydd bwysicaf i’w hunaniaeth.
“Mae Wcreiniaid yn dathlu annibyniaeth nawr oherwydd y dyfodol.
“Yr hyn rydyn ni’n ei nodi yw pen-blwydd meddiannu, a daeth llawer o bobol yma i Abertawe i siarad am ein poen.
“Ond fe wnaethon ni siarad am ein plant, ein dyfodol, ein diwylliant ac rydyn ni’n dathlu hyn.”
Diwylliant sydd wedi goroesi, ac sy’n ffynnu
Yn ôl Dr Dmitri Finkelshtein, mae Wcreiniaid ar draws y byd yn falch iawn o’u hunaniaeth.
“Mae gennym ni hanes hir iawn,” meddai.
“Mae gennym ni lawer o enghreifftiau hardd o ddiwylliant oedd heb gael ei ddinistrio er gwaetha’r holl ymdrechion.
“Mae llawer o’r bobol sydd wedi’u lladd erioed wedi bod yn awduron, yn arlunwyr, llawer o bobol ddiwylliannol yn ystod cyfnod Stalin.
“Cafodd rhannau o’r diwylliant eu dinistrio mewn tanau yn ystod cyfnod yr Undeb Sofietaidd yn y 1960au.
“Er gwaethaf canrifoedd o hyn, goroesodd Wcreineg, mae’n bodoli ac yn ffynnu.
“Mae’r rhan fwyaf o ganeuon [gafodd eu canu yn Sgwâr y Castell, Abertawe] yn ganeuon cyfoes gafodd eu creu gan genhedlaeth ifanc o Wcreiniaid sydd yn eu 20au a’u 30au.
“Mae hyn yn adlewyrchu eu hunaniaeth nhw.
“Mae cerddoriaeth roc yn cael ei chreu gan lawer o Wcreiniaid ifainc, ac mae llawer o enghreifftiau hardd o hynny.
“Mae’n dangos bod y genedl yn teimlo atgyfodiad ei hunaniaeth, ac mae diddordeb Wcreiniaid yn eu hanes yn tyfu.”
Y gymuned yn tyfu
Wrth i’r gymuned Wcreinaidd yng Nghymru dyfu yn sgil y rhyfel, daw’r cyfle i godi ymwybyddiaeth o’r genedl y tu hwnt i’r rhyfel.
Mae elusen Sunflowers Wales yn uno Wcreiniaid ledled de Cymru, ac mae’r grŵp craidd o ryw bymtheg o wirfoddolwyr wedi bod wrthi ers dechrau’r rhyfel yn 2014.
Mae’r grŵp wedi tyfu’n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf wrth i ffoaduriaid o Wcráin gael lloches yng Nghymru yn sgil y rhyfel.
“Yn ogystal â’n gwaith arferol o anfon parseli rheolaidd i Wcráin, dechreuon ni uno Wcreiniaid gyda sefydliadau Cymreig, y Llywodraeth ac ati,” meddai Dr Dmitri Finkelshtein.
“Ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol, rydyn ni wedi uno miloedd o bobol o Wcráin, yn bennaf yn ardaloedd Abertawe, Llanelli, Llandeilo a Chastell-nedd Port Talbot.
“Mae llawer o Wcreiniaid yn Abertawe nawr, maen nhw’n ffrindiau ac yn cwrdd yn rheolaidd i drefnu digwyddiadau cymdeithasol.
“Maen nhw’n dathlu’r Nadolig, y Pasg ac ati, a dw i’n credu ei bod hi’n bwysig iawn fod y gymuned yn uno.
“Mae ein dawnswyr i gyd yn ffoaduriaid. Daethon nhw yma y llynedd.
“Dydyn nhw ddim yn ddawnswyr proffesiynol; maen nhw’n cymryd rhan mewn digwyddiadau codi arian ac rydyn ni’n cynnig llwyfan i bobol gael bod yn rhan o rywbeth mwy.
“Maen nhw’n helpu i godi arian, fydd yn helpu milwyr Wcreinaidd drwy brynu cyflenwadau meddygol, felly mae uno yn bwysig iawn.”
Mwy o ymwybyddiaeth
Yn ôl Dr Dmitri Finkelshtein, er gwaethaf erchyllterau’r rhyfel, mae hefyd wedi cynnig y cyfle i godi ymwybyddiaeth o ddaearyddiaeth, hanes a diwylliant Wcráin.
Erbyn hyn, meddai, mae pawb yn gwybod am y wlad.
“Weithiau pan fyddai pobol yn gofyn i fi o le oeddwn i’n dod, a finnau’n dweud Wcráin, roedd angen i fi egluro ble mae hi,” meddai.
“Roedd angen i fi egluro’r gwahaniaeth rhwng Wcráin a Rwsia oherwydd, yn y byd gorllewinol, roedd Rwsia a’r Undeb Sofietiaidd fwy neu lai yr un lle.
“Ar ôl sawl blwyddyn, mae llawer o ddinasoedd yn Wcráin bellach yn adnabyddus i bobol yng ngwledydd Prydain oherwydd newyddion trasig.
“Mae pobol wedi bod yn arddangos eu diwylliannau gwahanol gan eu bod nhw’n dod o ddinasoedd gwahanol.
“Oherwydd hyn dw i’n credu ei bod hi’n bwysig iawn i bobol yng ngwledydd Prydain wybod fod yna lawer o wahanol lefydd.
“Mae Wcráin yn fawr iawn, ac mae llawer o draddodiadau gwahanol iawn mewn gwahanol ranbarthau.
“Wrth gwrs, byddai’n wych gallu arddangos hyn mewn digwyddiadau ar raddfa fawr.”
Dyma flas o’r perfformiadau yn Sgwâr y Castell, Abertawe…