Mae’r rheoleiddwr ynni Ofgem wedi cyhoeddi eu bod nhw am ostwng y cap ar brisiau ynni.

O ganlyniad, bydd biliau ynni cartrefi yn gostwng o £2,074 y flwyddyn i ryw £1,923 ar ôl i’r newidiadau ddod i rym ar Hydref 1.

Bydd y newidiadau i’r cap yn digwydd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban ar ôl i gwymp ym mhrisiau cyfanwerthol nwy leihau’r costau ar gyfer cyflenwyr.

Dyma fydd y tro cyntaf i’r costau blynyddol fod o dan £2,000 ers Ebrill y llynedd, sy’n golygu y bydd cartrefi yn arbed tua £151 o gymharu â’r chwarter blaenorol.

Yn ogystal â newidiadau i’r cap ar brisiau, mae Ofgem wedi cyflwyno mesurau i leihau costau i gwsmeriaid sydd â mesuryddion rhagdalu.

Maen nhw hefyd wedi sicrhau cymorth ychwanegol i’r rhai sy’n wynebu datgysylltu o’r rhwydwaith.

Er i’r cap prisiau barhau gyda’r duedd i ostwng ers ei uchafbwynt o £4,279, mae’r ffigwr yn dal i fod ymhell dros y cyfartaledd cyn yr argyfwng ynni yn 2021.

“Dim esgus” i gyflenwyr

Mae Jonathan Brearley, Prif Weithredwr Ofgem, yn croesawu’r gostyngiad pellach yn y cap prisiau.

Ond dywed ei fod yn deall y bydd sawl un yn parhau i ddioddef dros y gaeaf.

“Rydym yn gwybod fod pobol yn cael trafferth gyda’r heriau ehangach o ran costau byw, ac ni allaf gynnig unrhyw sicrwydd y bydd pethau’n lleddfu’r gaeaf hwn,” meddai.

Dywed eu bod nhw wedi cyflwyno mesurau newydd i gefnogi defnyddwyr, gan gynnwys lleihau costau ar gyfer y rhai sydd ar fesuryddion rhagdalu.

Maen nhw hefyd wedi cyflwyno cod ymddygiad mesuryddion rhagdalu y mae angen i bob cyflenwr ei fodloni cyn iddyn nhw osod unrhyw fesuryddion gorfodol.

“Mae yna arwyddion bod y rhagolygon ariannol ar gyfer cyflenwyr yn sefydlogi a bod elw rhesymol yn dychwelyd,” meddai.

Mae lwfans ychwanegol i Enillion Cyn Llog a Threth hefyd, a dywed y dylai hynny sicrhau bod cwsmeriaid yn derbyn y gofal gorau.

“Ni ddylai fod unrhyw esgusodion i gyflenwyr beidio â gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi eu cwsmeriaid y gaeaf hwn,” meddai.

“I atgyfnerthu hyn, byddwn yn cyflwyno cod ymddygiad defnyddwyr y byddwn yn edrych i’w gael ar waith erbyn y gaeaf.”

Beth yw’r cap ar brisiau ynni?

Mae’r cap yn anelu i amddiffyn cwsmeriaid rhag gordaliadau trwy gyfyngu faint all cyflenwyr ei godi am bob uned o nwy a thrydan.

Dydy hwn ddim yn gap ar gyfanswm y bil ynni.

Ar hyn o bryd, mae Ofgem yn newid y cap egni bob tri mis er mwyn ceisio adlewyrchu chwyddiant neu’r newidiadau mewn costau byw.