Mae ymchwil newydd yn dangos bod y penderfyniad dadleuol i symud achos llys llosgi Ysgol Fomio Penyberth o Gymru i Lundain wedi’i ysgogi gan bennaeth lleol yr heddlu yn hytrach na chan lywodraeth San Steffan.

Cafodd tri o aelodau mwyaf blaenllaw’r Blaid – Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams – eu carcharu ar ôl llosgi’r Ysgol Fomio, oedd yn cael ei chodi ym Mhenyberth ger Pwllheli fis Medi 1936.

Bu storm yng Nghymru yn dilyn y penderfyniad i symud yr achos i’r Old Bailey yn Llundain, a hynny ar ôl i reithgor yng Nghaernarfon fethu â chael y tri yn euog o’r difrod.

Bu’r cyn-Brif Weinidog David Lloyd George ymhlith y llu oedd yn beio llywodraeth y dydd, wrth ddweud mai dyma oedd y llywodraeth gyntaf i roi Cymru ar brawf yn yr Old Bailey.

Bellach, mae ymchwil newydd gan yr arbenigwr cyfreithiol Keith Bush yn dangos bod y pwysau i symud yr achos wedi’i ysgogi gan Edward Williams, Prif Gwnstabl Heddlu Sir Gaernarfon, yn hytrach na chan weinidogion y Llywodraeth yn Llundain.

Tystiolaeth

Mae ymchwil Keith Bush, sy’n Gymrawd Cyfraith Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, wedi darganfod bod llythyr gan y Prif Gwnstabl ddeuddeng niwrnod ar ôl diwedd yr achos cyntaf yng Nghaernarfon wedi annog y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus i ddanfon yr achos y tu allan i Gymru.

I ddangos ei bryder, amgaeodd gopi o’r panel o ddarpar-reithwyr gafodd ei farcio ganddo i nodi pa reithwyr oedd wedi bod yn barod i gael y Tri yn euog, a pha rai oedd ddim – saith dros euog a phump yn erbyn.

Roedd y dystiolaeth hon o’r rhaniad dwfn o fewn y rheithgor, ynghyd â’r awyrgylch tu allan a thu fewn i’r llys yn ystod yr achos, yn ei gwneud yn angenrheidiol cynnal yr achos dros y ffin yn yr Old Bailey.

Ychwanega fod canlyniad yr achos yng Nghaernarfon wedi rhoi hwb mawr i Blaid Cymru, a’u bod nhw’n dweud y byddai canlyniad tebyg eto pe byddai’r diffinyddion yn mynd gerbron rheithgor Cymreig.

Fodd bynnag, cymaint oedd y gwrthwynebiad a gododd yn erbyn y cais, fel bod y Twrnai Cyffredinol wedi chwilio am opsiwn arall, gan gyfaddef nad oedd wedi rhagweld y gallai’r syniad o symud achos o Gymru i Loegr fod mor ddadleuol.

Cynigiodd bargyfreithwyr dros yr erlyniad ddewis amgen i’r Arglwydd Prif Ustus, sef cynnal ail brawf rywle arall yng Nghymru, gan awgrymu Caerdydd.

Ond erbyn hynny roedd hi’n rhy hwyr a’r unig gais gerbron y llys oedd i’r achos gael ei symud o Gymru i Lundain.

Cafodd y gwaith ymchwil ei ddatgelu mewn darlith gan Keith Bush yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan ger Pwllheli, gafodd ei threfnu gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru.

Mae hefyd yn edrych ar agweddau eraill ar achos llys Penyberth, gan gynnwys y driniaeth o’r iaith Gymraeg yn ystod yr achos cyntaf.