Mae Uno’r Undeb wedi cyhoeddi y bydd eu haelodau sy’n gweithio i gynghorau Gwynedd, Caerdydd a Wrecsam yn streicio fis nesaf.

Tra bydd aelodau yng Nghaerdydd a Wrecsam yn streicio am bythefnos rhwng Medi 4-17, bydd y rheiny sy’n gweithio yng Ngwynedd yn streicio am wythnos rhwng Medi 11-17.

Daw’r streic wedi i aelodau’r undeb wrthod cynnig tâl cyfradd unffurf o £1,925.

Yn ôl yr undeb, mae’r cynnig hwn yn is na’r un y llynedd, er gwaethaf effeithiau cynyddol yr argyfwng costau byw.

Yn ôl Peter Hughes, ysgrifennydd rhanbarthol Cymru yr undeb, mae’r cynnig yn golygu “slap i’r wyneb fyddai’n gweld lefelau cyflog yn erydu ymhellach”.

“Mae ein haelodau yn darparu gwasanaethau hanfodol o ddydd i ddydd ac yn haeddu gwell,” meddai.

“Oni bai bod cynnig cyflog gwell yn dod, fydd y gweithredu diwydiannol hwn ond yn cynyddu wrth i ni fynd ymlaen i fisoedd yr hydref”.

Argyfwng

Mae’n debygol y bydd y streiciau yn effeithio ar amryw o wasanaethau, megis casglu sbwriel, glanhau strydoedd a gwaith cymunedol.

Yn ôl arolwg o aelodau Uno’r Undeb yn gynharach yn yr haf, mae dros eu hanner wedi cael trafferth fforddio gwresogi eu cartrefi, ac o ran trydan a dŵr hefyd.

Dywed 20% eu bod nhw’n cael trafferth fforddio bwyd a dillad, tra bod 23% yn cyfaddef eu bod nhw’n hepgor prydau bwyd er mwyn arbed arian.

Yn dilyn y bleidlais ar y streic rhwng Mehefin 13 a Gorffennaf 28, cyrhaeddodd aelodau Unite mewn 23 o awdurdodau lleol ledled Cymru a Lloegr y trothwy ar gyfer nifer y pleidleiswyr sy’n ofynnol er mwyn cymryd camau diwydiannol cyfreithlon.

Dywed Sharon Graham, ysgrifennydd cyffredinol Uno’r Undeb, eu bod nhw’n cefnogi gweithwyr yr awdurdodau lleol.

“Mae gweithwyr cynghorau Cymru ar y rheng flaen yn darparu gwasanaethau hanfodol i gymunedau ledled Cymru,” meddai.

“Mae’n gwbl annerbyniol fod gweithwyr wedi’u gorfodi i fyw mewn tlodi oherwydd blynyddoedd o doriadau cyflog mewn termau real.

“Nid yw Uno’r Undeb fyth yn cymryd cam yn ôl wrth gefnogi ei aelodau, ac mae’n ymroddedig i wella eu swyddi, eu cyflog a’u hamodau.

“Bydd Uno’r Undeb yn rhoi ein cefnogaeth lwyr i aelodau ein hawdurdodau lleol.”