Mae Taclo Tipio Cymru wedi rhybuddio ymwelwyr i beidio â gadael sbwriel ar ôl dros benwythnos gŵyl y banc.
Yn ôl yr elusen, mae aelodau o’r cyhoedd sy’n gadael sbwriel wrth ymyl biniau gorlawn neu’n gadael eu barbeciws untro ar ôl yn achosi niwed go iawn i’r amgylchedd.
Mae Neil Harrison, arweinydd y prosiect, yn cyfeirio at y math yma o ymwelwyr fel “tipwyr anghyfreithlon anfwriadol”, a dywed fod cynnydd yn y math hwn o dipio.
“Mae pobol yn meddwl eu bod yn helpu drwy adael eu sbwriel wrth ymyl y biniau, ond mewn gwirionedd mae’n enghraifft o dipio anghyfreithlon,” meddai.
“Dim ond hyn a hyn o gapasiti sydd gan gasglwyr sbwriel y cynghorau lleol, ac nid yw’n ddiogel gadael swm na ellir ei reoli o sbwriel i’w gasglu.
“Mae hyn yn golygu bod gadael biniau’n orlawn nid yn unig yn fater amgylcheddol, ond hefyd yn fater iechyd cyhoeddus.”
Dywed y gallai unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n cael eu dal neu eu cael yn euog o dipio anghyfreithlon wynebu dirwy gostus.
“Rydym yn gofyn i aelodau’r cyhoedd ein helpu i warchod amgylchedd naturiol Cymru a mynd â’u sbwriel adref os yw’r biniau’n llawn, gan ganiatáu i bawb fwynhau mannau prydferth,” meddai.
Pum tip Taclo Tipio Cymru
Yn ôl yr elusen, mae pum prif ffordd gall ymwelwyr fod yn wyliadwrus o’r amgylchedd er mwyn cadw Cymru’n lan ac osgoi bod yn dipiwr anghyfreithlon.
Un awgrym yw fod y rheiny sy’n mynd am bicnic yn defnyddio llestri sy’n gallu cael eu hailddefnyddio, ac yn dod â’u bagiau bin eu hunain er mwyn casglu’r holl sbwriel ar ôl gorffen.
Darn arall o gyngor yw sicrhau bod ardal yr ymweliad yn caniatáu barbeciws, ac ystyried bod sawl archfarchnad wedi gwahardd barbeciws untro oherwydd eu heffaith amgylcheddol.
Maen nhw’n dweud bod rhaid bod yn ofalus wrth gael gwared â’r barbeciw, a pheidio ag achosi difrod i’r glaswellt nac i’r biniau.
I’r rheiny sy’n mynd i wersylla, mae’r elusen yn awgrymu dilyn y Côd Cefn Gwlad, ac yn gofyn i bobol beidio â phrynu pebyll rhad a’u gadael ar ôl, gan fod pebyll yn anodd iawn i’w hailgylchu.
Yn ogystal, maen nhw’n gofyn i bobol beidio â thaflu unrhyw sbwriel i afonydd, llynnoedd na’r môr gan fod hyn yn eu llygru.
Yr awgrym olaf yw fod garddwyr yn edrych i weld pa wasanaethau gwastraff gardd mae eu Cyngor lleol yn ei ddarparu, neu’n mynd â’u gwastraff i ganolfan ailgylchu lleol.
Gallai’r rheiny sy’n gadael y gwastraff mewn caeau, coedwigoedd neu ar dir comin yn wynebu dirwy o hyd at £400 am dipio ar raddfa fach.