Fe fu cynnydd o 10% yn nifer yr achosion o greulondeb i gŵn y llynedd, yn ôl RSPCA Cymru.

Yn ystod 2022, roedd 3,379 o adroddiadau i’r RSPCA, o gymharu â 3,065 yn 2021.

Roedd rhai o’r achosion hyn yn ymwneud â niwed bwriadol (579), esgeuluso (1,922) neu amddifadu (45).

Roedd 81 o adroddiadau o weithgarwch anghyfreithlon.

Daeth y rhan fwyaf o’r galwadau o Abertawe (296), Rhondda Cynon Taf (294) a Chaerdydd (278), ac roedd cynnydd ym mhob un o’r ardaloedd hyn dros y flwyddyn.

Mae’r achosion yn cynyddu yn ystod misoedd yr haf, wrth i RSPCA Cymru baratoi ar gyfer adeg brysura’r flwyddyn.

Daw’r ffigurau fel rhan o ymgyrch yr elusen i geisio codi arian er mwyn helpu eu timau achub.

‘Ystadegau ofnadwy’

“Ers cannoedd o flynyddoedd, mae cŵn yn adnabyddus fel ffrindiau gorau dyn, ac os ydych chi’n rhannu eich cartref gyda chi fe fyddwch chi’n gwybod pam, gan eu bod nhw’n gyfeillion mor ffyddlon a chariadus,” meddai Gemma Cooper, dirprwy brif arolygydd canolbarth a gorllewin Cymru gyda’r RSPCA.

“Ond mae’r ystadegau ofnadwy hyn yn adrodd stori wahanol.

“Cŵn yw’r anifeiliaid sy’n cael eu camdrin fwyaf yn y wlad hon, ac rydyn ni’n ymchwilio i fwy o gwynion amdanyn nhw nag unrhyw anifail arall.

“Bydd pawb sy’n poeni am anifeiliaid wedi’u ffieiddio o wybod faint o adroddiadau rydyn ni’n eu derbyn am gŵn yn cael eu cicio, eu curo, eu llosgi neu waeth.

“Mae angen cymorth y cyhoedd arnon ni i Ganslo Creulondeb.

“Mae eu rhoddion, waeth pa mor fach, yn helpu i gadw ein swyddogion rheng flaen allan ar yr heol yn achub anifeiliaid ac yn ymchwilio i’r adroddiadau ofnadwy hyn.”