Fe wnaeth aelodau o grwpiau gwrth-niwclear Cymru gymryd rhan mewn protest ryngwladol neithiwr (nos Wener, Awst 25) yn erbyn camau Japan i ollwng dŵr ymbelydrol i’r môr.
Mae Japan wedi dechrau gollwng dŵr ymbelydrol sydd wedi’i drin o bwerdy Fukushima i’r Môr Tawel yr wythnos hon.
Mae’r dŵr yn ddiogel yn ôl rheoleiddwyr niwclear y Cenhedloedd Unedig.
Daw’r dŵr o atomfa Fukushima, ddaeth yn safle’r drychineb niwclear fwyaf ers Chernobyl, yn dilyn daeargryn achosodd ddamwain niwclear yno yn 2011.
‘Effaith ar fywyd morol a dynol’
Fodd bynnag, mae ymgyrchwyr gwrth-niwclear gan gynnwys rhai yng Nghymru yn gwrthwynebu’r camau, ac mae Tsieina wedi gwahardd bwyd môr o Japan.
Mae protestiadau wedi cael eu cynnal yn Japan ac yn Ne Corea, ac fe wnaeth aelodau a chefnogwyr CADNO a PAWB gyfarfod brynhawn ddoe ger Pier Bangor i brotestio yn erbyn y camau.
“Rhannwn bryder ymgyrchwyr Japan a gwledydd eraill am y tritiwm, cabon-14, strontiwm-90 ac ïodin-129 yn y dŵr a’r effaith y gallai ei chael ar bysgod a bywyd morol ac ar fywyd dynol os bydd gronynnau ymbelydrol yn cael eu chwythu yn ôl i’r tir,” meddai’r ddau fudiad mewn datganiad ar y cyd.
“Deallwn ofn pysgotwyr rhanbarth Fukushima o niwed i’w bywoliaeth trwy fygythiad ymbelydrol y gollwng.
“Mae’r ffaith mai dim ond gollwng cynnwys 10 tanc ar y safle allan o dros 1,000 ohonynt a fwriedir yn y flwyddyn ariannol hon yn profi bod y dŵr hwn yn ymbelydrol wenwynig.”
‘Niweidio’r amgylchedd’
Ychwanega’r ymgyrchwyr eu bod nhw’n galw ar Lywodraeth Japan i atal y cynllun “anghyfrifol” ar unwaith, a chwilio am lefydd eraill i storio dŵr ymbelydrol Fukushima yn ddiogel a dan oruchwyliaeth.
“Mae’n rhaid gwneud hynny yn hytrach na gollwng dŵr ymbelydrol yn ddi-dor i’r Môr Tawel am o leiaf 30 mlynedd.
“Mae gan y diwydiant niwclear rhyngwladol hanes gwarthus o niweidio’r amgylchedd ar dir ac yn y môr.
“Ni ddylai Llywodraeth Japan gyfrannu ymhellach fyth at y fandaleiddio amgylcheddol hwnnw.”