Mae yna rwydwaith newydd yn tyfu ar hyd a lled Dinas-Sir Wrecsam, a hynny o ganlyniad i gyfres o ddigwyddiadau gafodd eu trefnu gan fyfyrwyr ym mwyty Iâl, Coleg Cambria.

Gyda chefnogaeth Judith Alexander, y Cydlynydd Menter ac Entrepreneuriaeth, a Tim Feak, y Prif Gaplan, trefnodd y dysgwyr ddod â phobol at ei gilydd o wahanol grefyddau a chefndiroedd, i hyrwyddo’u hetifeddiaeth, eu hanes a’u traddodiadau.

Yn sgil hyn, mae Culture Collective yn cynllunio rhagor o ddigwyddiadau yng Ngholeg Cambria y flwyddyn academaidd nesaf.

Digwyddiad ym mwyty Iâl, Coleg Cambria

Y digwyddiadau

Aeth mwy na 140 o bobol i’r digwyddiad cyntaf, lle’r oedd gwahanol fwyd a diod o bob cwr o’r byd yn cael eu harddangos, yn ogystal â cherddoriaeth, dawns, llenyddiaeth, celf a rhagor.

“Gwnaethom wahodd myfyrwyr a sefydliadau lleol i ddod at ei gilydd i ddathlu’r gymuned o ddiwylliannau amrywiol yma yn Wrecsam,” meddai Judith Alexander.

“Prosiect un tro oedd hwn i ddechrau a arweiniodd at raglen o ddigwyddiadau, a rŵan mae’r dysgwyr yn bwriadu gwneud hyd yn oed mwy yn y flwyddyn academaidd nesaf.

“Roedden nhw a phawb a ddaeth am dro yn cydnabod buddion cydfodoli, amrywiaeth, derbynioldeb a mwynhau traddodiadau a hanes ein gilydd – roedd wir yn anhygoel ac yn teimlo fel dechrau rhywbeth arbennig iawn.

“Roedd hefyd yn gyfle i ni drio amrywiaeth anhygoel o ddanteithion, a oedd yn hynod o flasus ac yn newydd i lawer ohonon ni.”

Danteithion

Rhannu profiadau

Mae Marina Kogan, model rôl Syniadau Mawr Cymru sy’n hanu o Rwsia, a mentoriaid eraill wedi bod wrth law i rannu eu teithiau entrepreneuraidd; yn ei hachos hi, sut y gwnaeth hi lansio busnes hyfforddi llwyddiannus yng ngogledd Cymru.

Gyda chefnogaeth Grant Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Wrecsam a ffrydiau ariannu eraill, dywed Tim Feak y bydd y rhain, a digwyddiadau ysbrydoledig eraill, yn parhau i hyrwyddo undod a rhyngweithio.

“Bydd y 12 mis nesaf yn gweld Culture Collective yn croesawu rhagor o genhedloedd, cymunedau ac ymgyrchoedd,” meddai.

“Yn ogystal â digwyddiadau aml-ffydd, byddwn yn edrych ar fwyd a diwylliant, yn dathlu ESOL (Saesneg i Siaradwyr Eraill), LHDTC+ a chelfyddydau’r byd a’u heffaith dros y cenedlaethau diwethaf, y presennol ac yn y dyfodol.

“Rydyn ni wedi bod mor falch o weld ymateb mor anhygoel mewn cyfnod lle mae gwirioneddol angen i’r byd ddod at ei gilydd, mewn cariad a derbynioldeb, a all ond arwain at ei wneud yn lle gwell.

“Mae’n wych bod ein dysgwyr ar flaen y gad gyda hynny.”

Rôl y Gymraeg

Mae holl waith y Coleg yn ddwyieithog, gan gynnwys digwyddiadau.

Yn ogystal, mae’r rhwydwaith yn cynnwys sefydliadau cyfrwng Cymraeg wrth dyfu, gan gynnwys Ysgol Morgan Llwyd, ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg Wrecsam.

Dywed y Pennaeth Catrin Pritchard ei bod hi’n edrych ymlaen at gydweithio.