Wrth i’r argyfwng costau byw barhau i effeithio ar bobol ifanc, mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi cymorth ariannol ychwanegol i rai pobol ifanc gymwys sydd yn y system addysg bellach.

Bwriad yr arian yw lleddfu’r straen ariannol cynyddol sy’n wynebu pobol ifanc, a chaiff y cymorth ariannol ei gynnig ar sawl ffurf wahanol.

  • Y Gronfa Ariannol Wrth Gefn

Mae’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn yn un gronfa sydd wedi gweld hwb ariannol, wrth i’r Gweinidog gyhoeddi codiad o 6.5% ar gyfer 2023-24.

Mae’r gronfa’n darparu cymorth ariannol i ddysgwyr cymwys mewn colegau addysg bellach, er mwyn ei ddefnyddio tuag at gostau gofal plant, trafnidiaeth, prydau bwyd, cyfarpar a deunyddiau dysgu.

  • Lwfans Cynhaliaeth Addysg

Mae’r Grant Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn ddull arall o gymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr yn y Chweched Dosbarth neu mewn colegau, tuag at gostau sy’n gysylltiedig â’u haddysg, er enghraifft bwyd a thrafnidiaeth.

Cyn hyn, £30 yr wythnos roedd myfyrwyr cymwys yn ei dderbyn, ond ym mis Ebrill cafodd ei gynyddu i £40.

  • Help gyda chostau trafnidiaeth a bwyd

Mae rhai dysgwyr 16-19 oed yn gymwys i hawlio cymorth ychwanegol ar gyfer eu costau cludiant addysg bellach.

Gall hynny gynnwys y rheiny dros 16 oed sy’n astudio yn eu hysgol leol ac yn teithio dros bellter penodedig i gyrraedd yno, rheiny sy’n 16-19 oed ac sy’n astudio’n llawn-amser mewn coleg Addysg Bellach, neu ddysgwyr sy’n 19 oed neu’n hŷn neu sy’n astudio’n rhan amser.

Yn yr un modd, gall disgyblion cymwys mewn addysg bellach llawn amser wneud cais am brydau ysgol am ddim trwy eu hawdurdodau lleol.

  • Cyfleoedd pellach

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig amryw o opsiynau prentisiaethau er mwyn galluogi pobol ifanc i ddysgu wrth weithio.

Caiff cyflog ei gynnig i’r rheiny sy’n cymryd rhan mewn prentisiaethau, ac felly mae’n ffordd o ennill ychydig o arian ychwanegol wrth ddysgu.

Yn ogystal, caiff gwersi Cymraeg eu cynnig yn rhad ac am ddim i’r rheiny sydd rhwng 18 a 25 oed ac sy’n awyddus i ddysgu’r iaith neu i gryfhau eu sgiliau ieithyddol.

Daw hyn fel rhan o Gytundeb Cydweithio’r Llywodraeth gyda Phlaid Cymru, ac mae modd cofrestru am ddim trwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.