Bu cynnydd o 14% yn allforion cig oen y Deyrnas Unedig yn ystod chwe mis cyntaf eleni, o gymharu â dechrau’r flwyddyn ddiwethaf.
Fodd bynnag, mae’r data’n dangos bod allforion cig eidion o’r Deyrnas Unedig wedi gostwng 22% o gymharu â’r llynedd hefyd.
Gostyngodd yr allforion porc gan 23% yn ystod y cyfnod.
Cig oen
Mae data Hybu Cig Cymru yn dangos bod “gostyngiad sylweddol” wedi bod mewn mewnforion cig oen, a bod mewnforion cig eidion wedi gostwng 5%.
Aeth tua 94% o’r cig gafodd ei allforio i farchnadoedd yr Undeb Ewropeaidd, gyda 2,500 tunnell ychwanegol yn mynd i Ffrainc eleni.
Aeth 1,700 tunnell yn fwy i’r Almaen yn ystod chwe mis cynta’r flwyddyn, o gymharu â’r un cyfnod y llynedd.
Wrth gyfeirio at y cynnydd mewn allforion cig oen, dywed Glesni Phillips, Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes Hybu Cig Cymru, fod hyn wedi digwydd er bod llai nag 1% yn fwy o gig oen y Deyrnas Unedig ar y farchnad eleni.
“Ac am fod y cyflenwad yn y Deyrnas Unedig fel arfer ar ei uchaf yn ystod hanner olaf y flwyddyn, byddem yn disgwyl i’r fasnach gref hon barhau,” meddai.
Mae’r data hefyd yn dangos mai o Seland Newydd y daeth bron i 60% o’r holl gig oen ffres ac wedi’i rewi gafodd ei fewnforio i’r Deyrnas Unedig yn ystod chwe mis cynta’r flwyddyn.
“Mae’n ymddangos bod y gostyngiad yn y mewnforio yn adlewyrchu newidiadau i ofynion defnyddwyr yn fyd-eang,” meddai Glesni Phillips.
“Er enghraifft, aeth llawer o gynnyrch Seland Newydd ac Awstralia i Tsieina.”
Porc a chig eidion
Wrth gyfeirio at y gostyngiad mewn allforion cig eidion, dywed Glesni Phillips fod llai o alw gan ddefnyddwyr yn Ewrop, gan fod prisiau gwartheg yn y Deyrnas Unedig wedi bod yn gryf ac yn llai cystadleuol yn y fasnach fyd-eang.
O ran porc, dywed fod cenfaint moch y Deyrnas Unedig yn “dal i grebachu” wrth i gostau cynhyrchu gynyddu.
“Daw hyn i’r amlwg hefyd mewn ystadegau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n dangos bod 13% yn llai o borc wedi cael ei gynhyrchu yn ystod y cyfnod o chwe mis, sef cyfanswm o 457,200 tunnell.”