Mae apêl wedi cael ei lansio i helpu i warchod coed hynafol Sir Ddinbych.

Ar hyn o bryd, mae tîm Bioamrywiaeth y Cyngor yn apelio ar dirfeddianwyr sydd â choed llydanddail brodorol i gymryd camau i amddiffyn y llinach.

Bydd swyddogion yn casglu hadau o goed sydd o ddiddordeb, a byddan nhw’n cael eu plannu er mwyn eu tyfu yng nghoedwig y Cyngor yn Llanelwy.

Mae 11,500 o goed eisoes wedi tyfu ar y safle eleni, a dylai tirfeddianwyr sydd â diddordeb mewn cyfrannu at yr ymdrech gysylltu â’r Cyngor.

“Rydym ni’n chwilio am y coed gwych hyn a’u hadau nhw i helpu i gadw a chynyddu brigdwf ein sir a byddem ni’n gwerthfawrogi cymorth tirfeddianwyr i wneud hyn yn fawr,” meddai Liam Blazey, Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych.

‘Etifeddiaeth’

“Mae gennym ni gyfleuster gwych, sef ein planhigfa goed, sydd wir yn bwrw ymlaen i’n helpu ni i wella ein bioamrywiaeth ar hyd a lled Sir Ddinbych,” meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth y Cyngor.

“Byddai’n wych pe gallem ni ddefnyddio hwn i barhau ag etifeddiaeth y coed hynafol balch hynny sydd allan yn y sir a byddwn yn annog tirfeddianwyr i gysylltu os ydyn nhw am wneud eu rhan nhw i helpu ein brigdwf lleol i ffynnu.”