Mae digrifwr Iddewig o Bort Talbot yn dweud iddo ddioddef gwrth-Semitiaeth gan asiant comedi yng Ngŵyl Caeredin.

Roedd Bennett Arron wedi bod yn perfformio’i sioe ‘Loser’ yn yr ŵyl gomedi yn y Liquid Room ym mhrifddinas yr Alban neithiwr (nos Sul, Awst 27) pan wynebodd e’r hyn mae e wedi’i ddisgrifio fel “ypset braidd”.

“Penderfynodd asiant rhai digrifwyr adnabyddus weiddi arnaf mewn bar, o flaen fy nheulu oedd wedi dod i ddathlu fy llwyddiant yn y Ffrinj, fod Iddewon yn gorddweud gwrth-Semitiaeth a bod gan grwpiau lleiafrifol eraill gyfiawnhad gwirioneddol dros gwyno, ond nid Iddewon,” meddai Bennett Arron ar X (Twitter).

“Aeth yn ei flaen hefyd i weiddi na ddylai Iddewon fyth fod wedi cael Israel, a bod Iddewon wedi pardduo Jeremy Corbyn.

“Pan ofynnais i a allen ni drafod hyn rywbryd eto gan ei fod yn ypsetio fy nheulu, fe wnaeth e weiddi, ‘Edrychwch, maen NHW wastad yn gwneud hyn!’

“Fe wnaeth e wir ddifetha’r hyn oedd wedi bod yn ŵyl hyfryd.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan The Liquid Room a threfnwyr Gŵyl Ffrinj Caeredin.