Mae Ayoub Boukhalfa, cerddor a cheisiwr lloches o Foroco, wedi cydweithio â Ffion Campbell Davis ac Alexander Comana i greu’r prosiect dwyieithog “Moroccan/Cymraeg”.

Mae’r gân gyntaf, ‘Achkid’ (‘Tyrd Yma’) eisoes wedi’i chyhoeddi, a honno’n trafod yr heriau mae person cwîar yn gorfod eu goresgyn i garu’r un maen nhw’n eu dewis.

Ceisiodd Ayoub Boukhalfa am loches yng Nghymru 16 mis yn ôl.

Ers cyrraedd Cymru, mae wedi taflu ei hun i mewn i Gymreictod, yn gwirfoddoli fel arweinydd côr Oasis One World Choir, ac mae hefyd wedi perfformio ym mhrosiect ‘The Cost of Living’ National Theatre Wales.

Yn ddiweddar, cafodd ei gynnwys ar restr Pinc List o bobol fwyaf dylanwadol LHDT+ Cymru.

Mae hefyd wedi gweithio gyda Stonewall Cymru, Glitter Cymru, Pride Cymru, Mas ar y Maes yr Eisteddfod Genedlaethol, ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Perfformiodd y gân ‘Achkid’ yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, yn ogystal ag yn Glitter Pride.

Yn amlieithydd talentog, mae nawr yn cyd-gyfansoddi deunydd iaith Gymraeg gan ddefnyddio alawon Morocaidd.