Dydy gŵyl sy’n dathlu ei phen-blwydd yn ddeg oed y penwythnos hwn ddim eisiau ticio bocsys yn unig, yn ôl un o’i threfnwyr.

Yn 2013 y cafodd gŵyl gelfyddydol gymunedol Wrexfest ei sefydlu yn Wrecsam.

Cafodd digwyddiadau eu cynnal rhwng dydd Iau (Awst 24) a dydd Sul (Awst 27), a hynny mewn pedwar lleoliad yn y ddinas-sir – Tŷ Pawb, Magic Dragon Brewery Tap, y Royal Oak, a Club XS.

Digwyddiadau a gweithgareddau am ddim oedd yr ŵyl yn bennaf, ond â phrif sioe drwy docynnau yn unig gan ‘A certain ratio’ yn Nhŷ Pawb ddydd Sul (Awst 27).

Roedd nifer fawr o fandiau, cerddorion a beirdd yn cyflwyno’u gwaith fel rhan o’r ŵyl, gan gynnwys y ‘Voicebox collective’.

Hanes yr ŵyl

Brendan

Yn ôl Brendan Griffiths, prif drefnydd presennol yr ŵyl sy’n byw ryw filltir o Tŷ Pawb yn Rhosddu, cafodd yr ŵyl ei sefydlu gan Beth Morait ond roedd yntau hefyd wedi bod yn rhan o’r trefniadau wrth ofalu am y sain.

Llwyn Isaf, y cae bach o flaen Llyfrgell Wrecsam, oedd safle gwreiddiol yr ŵyl a hwnnw’n gweithio’n dda – heblaw am yr adegau hynny pan fyddai’n wlyb.

Erbyn 2016, penderfynodd Beth Morait gamu’n ôl, gyda Brendan Griffiths yn etifeddu’r rôl.

“Dechreuodd y gymuned ddyheu am fwy o gerddoriaeth, ac mi wnaeth yr ŵyl straffaglu braidd hefo’i hunaniaeth,” meddai wrth golwg360.

“Roedd disgwyliad y byddai fel ‘Focus Wales’ arall, ond doedd gennym ddim y math yna o gyllid.

“Yn 2019, cawsom bach o reboot a dychwelyd i’r elfen gymunedol.

“Cawsom drafodaeth hefo Cyngor Celfyddydau Cymru am gynnwys cerddoriaeth y byd, ac euthum ati i bwcio N’famady Kouyate.

“Oherwydd Covid, cawsom saib am ddwy flynedd, a’r flwyddyn ddiwethaf wneuthum gadw’r rhan fwyaf o bethau yn Nhŷ Pawb; roedd y tywydd yn wael ac felly roedd angen i ni fod tu fewn.”

Gŵyl amlddiwylliannol

Dywed Brendan Griffiths ei bod yn bwysig iddo fod yr ŵyl yn cynnwys pob math o ddiwylliannau a chelf.

Mae yna frwdfrydedd a chefnogaeth yn y fro am bêl-droed, ond mae ymdeimlad ei bod hi’n bwysig cefnogi’r celfyddydau hefyd.

Mae Wrexfest wedi bod yn llwyddiannus, ond mae hi wedi cymryd degawd iddi gyrraedd lle mae hi erbyn hyn.

Maen nhw wedi cael grantiau ers yr ail flwyddyn (2014), ac mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ei chefnogi hefyd.

Mae Wrexfest wedi cydweithio â Chyngor Hil Cymru a Windrush Cymru, sydd â phrosiect ffilm ar y gweill, ac maen nhw wedi bod yn holi pobol am eu profiadau a’u hatgofion.

Enw’r trydydd ddigwyddiad (ar y dydd Sul) oedd ‘Windrush75’, ac mae Wrexfest wedi bod yn gweithio’n agos ag artistiaid lleol i archwilio sut mae’r ffenomenon hon wedi siapio’u celf a’r effaith mae wedi’i chael ar y sîn gerddoriaeth leol.

Yn ôl Brendan Griffiths, dydy hi ddim yn ticio bocsys yn unig, ac yn ei farn o does dim y fath beth â gwrthddiwylliant (counter-culture).

Dathlu a chyfrannu at ddiwylliant Wrecsam yw’r brif nod.

“Rydan ni jyst eisiau dod â cherddoriaeth a chelfyddydau diddorol i Wrecsam,” meddai.

“Y peth mwyaf anodd i ddod drosto yw cael cynulleidfa i’r celfyddydau yn Wrecsam.”

Mae Wrexfest yn cydweithio’n agos â Focus Wales, ac yn cael cyfarfodydd cyson hefo nhw.

O ran y berthynas a’r gwahaniaethau rhyngddyn nhw, dywed fod Focus Wales yn fwy fel diwydiant ac yn fasnachol, tra bod Wrexfest yn canolbwyntio ar y celfyddydau ar lawr gwlad, gan annog, cefnogi a pharatoi bandiau ar gyfer y diwydiant cerddorol.


Dadansoddiad Sara Louise Wheeler o’r ŵyl

Fues i’n rhan o’r digwyddiad ar y dydd Gwener, ar lwyfan bach yng nghwrt bwyd Tŷ Pawb.

Felly wrth i bobol brynu eu cinio am 12yh, ac eistedd wrth y byrddau mawr pren i fwyta a sgwrsio, dechreuais i set ‘Voicebox collective’ gyda chymysgedd o gerddi a chaneuon.

Roedd criw go lew ohonom, gan gynnwys Timothy Tucker, sydd yn wreiddiol o Gaer ond sydd bellach wedi ymgartrefu yn Gresffordd.

Tim
Tim Tucker

Mae’n rhaid dweud, dw i wrth fy modd gyda’i farddoniaeth ddigri, sy’n trafod materion cyfarwydd i mi megis y Sarlacc o Return of the Jedi.

Enw’r diwrnod oedd ‘Games Day’, ac yn ogystal â’r perfformiadau, roedd ‘The Flex space’ sef bar sgwâr yn llawn pobol yn chwarae gemau cyfrifiadurol ‘retro’. Mae hyn yn gysylltiedig â busnes ‘House of Lux’ Brendan o fewn Tŷ Pawb.

Ar ddydd Sadwrn, mi roedd Natasha Borton, trefnydd Voicebox, yn perfformio’n unigol hefo’i ukulele newydd i hyrwyddo’i LP newydd, ‘Hometown’.

Natasha
Natasha Borton

Ond rhaid dweud mai fy uchafbwynt personol oedd ‘Pantasy steel pan band’ ar ddydd Sadwrn. Wnaethon nhw lenwi Tŷ Pawb hefo cerddoriaeth oedd yn gwneud i mi fod eisiau dawnsio – neu o leiaf siglo ’chydig!

Pantasy
Pantasy

Wrth i mi archebu fy nghyw iâr tikka o Curry-on-the-go, roedden nhw’n chwarae ‘One Love’. Wrth i mi fwyta, wnaethon nhw chwarae ‘Hot hot hot’. Ac wrth i mi drafod y criced hefo fy ffrindiau draw yn siop ‘The Personal Present People’, wnaethon nhw chwarae ‘Soul Limbo’ – arwydd-gân y criced ar y teledu…ac un o’r alawon mwyaf llawen yn y byd!

Am ŵyl hyfryd yw hon!