Mae’r cynghorydd June Jones, sy’n gyfrifol am ward Glaslyn yng Ngwynedd, eisiau datrys problemau cysylltedd yn yr ardal.

Daw hyn wedi i’r cwmni Openreach newid rhai cwsmeriaid o gysylltedd band eang copr i ffibr mewn rhai cymunedau yn yr ardal, ac mae pryderon ynglŷn â sut y byddai pobol yn cysylltu ag eraill pe bai trydan yn cael ei golli.

Y broblem yw nad oes signal ffôn yn yr ardal chwaith, felly pe bai trydan yn cael ei golli fyddai gan drigolion ddim dull o gysylltu.

Yn ôl y cynghorydd, bu ardal Nantmor heb gysylltedd am wythnos yn ddiweddar.

“Ddaru ni golli ffibr am saith diwrnod yn Nantmor ar ôl i lygod bach gnoi’r gwifrau,” meddai wrth golwg360.

“Roedd yn rhaid mynd o’r pentref i rywle arall i gael signal, ac roedd y cwmni’n dweud y basen nhw’n ein tecstio ni’n ôl ond doedd neb yn gallu derbyn y tecsts.”

Her cael cymorth yn dilyn damwain

Mae hi’n bryderus beth fyddai’n digwydd pe bai angen i rywun yn y gymuned gael gafael ar wasanaethau brys neu gymorth arall.

“Dydy o ddim byd i ni golli trydan yn fan hyn am ddau ddiwrnod, mae ardaloedd gwledig yn colli trydan yn amlach,” meddai.

“Does dim signal ffôn i Vodafone nac EE o gwbl yma, ac mae hynny’n un broblem.

“Wedyn, wrth dynnu’r lein gopr i ffwrdd a dibynnu ar ffibr yn unig, os oes gen ti ddim ffibr does gen ti ddim byd.”

Dywed ei bod hi eisoes wedi gweld sefyllfa debyg, a bod pobol yn disgwyl bod signal ffôn wrth gyrraedd yr ardal.

“Roedd yna sefyllfa o rywun yn brifo’n ofnadwy mewn tŷ haf ac yn methu cael signal a’n rhedeg i’r tŷ agosaf – digwydd bod, fi oedd allan,” meddai.

“Wrth gwrs, roedd y gwasanaeth ambiwlans eisiau siarad gyda nhw, ac felly roedd yn rhaid rhedeg yn ôl ac ymlaen o’r tŷ.”

Eisiau deall graddfa’r broblem

Dyma pam fod June Jones yn cynnal sesiwn galw heibio ar y cyd â’r Aelod Seneddol Liz Saville Roberts yn Neuadd Beddgelert ar Awst 30 rhwng 4yp a 6yp.

Yn ôl June Jones, mae hi’n gobeithio y bydd y sesiwn o gymorth er mwyn deall graddfa’r broblem a ble yn union sy’n cael ei effeithio.

Hyd yma, mae hi’n gwybod gyda sicrwydd fod problemau yn ardaloedd Beddgelert, Nantmor, Blaen Nantmor a Nant Gwynant, ond mae’n bosib fod ardaloedd eraill wedi cael eu heffeithio hefyd.

Dywed fod nifer sylweddol o bobol leol wedi dod ati i godi eu pryderon yn barod, a’i bod hi eisiau rhoi’r cyfle i fwy o bobol wneud hynny.

“Beth ydw i eisiau ei wybod ydi faint o broblem ydi o,” meddai.

“Dw i’n gwybod fod yna lot o bobol wedi cwyno, ond dydw i heb siarad efo pawb.”

Mae hi’n gobeithio, gyda chymorth Liz Saville Roberts, y byddan nhw’n gallu cael yr atebion llawn er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.

“Dyna pam dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n cael Aelod Seneddol yna er mwyn gallu cael yr atebion iawn gan BT,” meddai.

Ymateb Openreach

Dywedodd llefarydd ar ran Openreach: “Rydym yn falch o’n buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yng Ngwynedd i ddod â band eang cyflymach a mwy dibynadwy i gymunedau, gan gynnwys Beddgelert.

“Heddiw gall bron i 95 y cant o gartrefi a busnesau yno archebu band eang cyflym iawn gyda chyflymder llwytho i lawr o 30Mbps neu fwy ac nid oes unrhyw gwmni arall yn gwneud mwy i wella gwasanaethau mewn rhannau trefol a gwledig o Gymru.

“Tra ein bod ni’n adeiladu rhwydwaith band eang ffeibr Llawn gwibgyswllt newydd ar draws y Deyrnas Unedig, mae’n benderfyniad yn y pen draw i gwsmeriaid a’u darparwyr gwasanaeth (y cwmni maen nhw’n talu eu bil iddo) a ydyn nhw am uwchraddio i’w ddefnyddio.

“Wrth gwrs rydyn ni’n annog pobol i brofi manteision cysylltiad cyflymach a mwy dibynadwy ond nid ydym yn gorfodi gwasanaethau i symud ym Meddgelert.”