A hithau’n ddiwrnod canlyniadau TGAU ledled Cymru heddiw (dydd Iau, Awst 24), mae pobol ifanc wedi bod yn mynd i’w hysgolion.

Ar ddiwrnod braf yn Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam, fe fu’r disgyblion yn ymgasglu yn y maes parcio lle’r oedd bwrlwm cyn iddyn nhw anelu am adeilad y Chweched Dosbarth,

Yng nghanol y criwiau teledu, roedd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles.

 


Roedd rhieni ac athrawon yno hefyd, a bu golwg360 yn clywed gan rai o’r disgyblion wrth iddyn nhw agor eu hamlenni.

Edie Roberts – unarddeg A*, A a dwy Ragoriaeth

Cafodd Edie Roberts unarddeg A*, A mewn Ffrangeg a dwy Ragoriaeth (Bagloriaeth Cymru a Mathemateg Pellach).

Mae hi am aros a mynd yn ei blaen i’r Chweched Dosbarth yn Ysgol Morgan Llwyd.

“Dwi’n nabod yr athrawon yn barod, mae’r dosbarthiadau yn llai, ac mae’r ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg”, meddai wrth golwg360.

Mi fydd hi’n astudio Ffiseg, Mathemateg a Chelf, gan ei bod hi wedyn am astudio pensaernïaeth yn y brifysgol a chael gyrfa yn y maes hwnnw.

Pan nad yw hi’n astudio, meddai, mae hi’n mwynhau darllen, gwylio lot o Netflix, a bwyta!


Rhys Penge – chwech A* a phump A

Cafodd Rhys Penge chwech A* a phump A.

Chafodd e ddim llwyddiant mewn Mathemateg Pellach, gan nad oedd yn wir mwynhau’r pwnc. Mi fydd yn gollwng y pwnc hwnnw a chanolbwyntio ar ei bynciau eraill.

Mae am aros yn yr ysgol ar gyfer y Chweched Dosbarth gan astudio Hanes, Gwleidyddiaeth a Saesneg, ac mae’n gobeithio mynd ei flaen i’r brifysgol i astudio Hanes a Gwlediyddiaeth, ac wedyn cwrs trosglwyddo i’r Gyfraith, yn Rhydychen o bosib.

“Dwi’n nabod yr ysgol yn ogystal a’r staff, a dwi’n gwybod lle mae popeth,” meddai wrth egluro pam ei fod e am aros yn Chweched Dosbarth yr ysgol.

Bydd hynny’n hwyluso’r profiad o astudio, meddai.

Yn ei amser hamdden, mae’n mwynhau mynd i’r gampfa, chwarae pêl-droed, a choginio.

“Mae fy nheulu fi’n Eidaleg, so dwi’n gwneud lot o pasta!” meddai.

Roedd Catrin Penge, mam Rhys, tu allan i’r gatiau yn aros i’w mab ddod allan â’i ganlyniadau.

 


John-Michael Owen-Anning

Mae John-Michael Owen-Anning hefyd am aros yn yr ysgol ar gyfer y Chweched dosbarth.

Bydd yn astudio Ffiseg, Gwasanaethau Cyhoeddus a Llenyddiaeth Saesneg.

Mae’n gobeithio mynd yn ei flaen wedyn i astudio Peirianneg yn y brifysgol.

“Mae fy holl fywyd wedi bod yn Gymraeg, felly mae’n haws parhau i astudio trwy’r Gymraeg trwy fynychu’r Chweched Dosbarth,” meddai.


Arabelle Maria Perrin

Mae rhai myfyrwyr wedi dewis mynd yn eu blaenau i Goleg Cambria.

Yn eu plith mae Arabelle Maria Perrin, sydd am astudio Gofal Iechyd, gan obeithio gweithio hefo pobol yn eu harddegau.

Mae hi’n edrych ymlaen at astudio yn y coleg, lle mae llawer o’i ffrindiau’n mynd hefyd.


Madison Shaw

Roedd Madison Shaw hefyd am astudio yng Ngholeg Camria.

Ei bwriad wedyn yw mynd yn ei blaen, un ai i Brifysgol Glyndŵr neu i Gaer.

“Dw i eisiau bod yn agos at fy nheulu a phawb,” meddai.

“Dwi eisiau astudio rhywbeth i wneud hefo Criminoleg.

“Dwi’n gwylio’r crime shows i gyd ar y teledu!”


Osian Powell-Jones

Mae Osian Powell-Jones yn edrych ymlaen at astudio ‘Cerddoriaeth, Perfformio ac Ysgrifennu Caneuon yn LIPA (Lerpwl).

Mae o am fyw adref a theithio yn ôl ac ymlaen.

O ran gyrfa, mae ganddo’i lygad ar bod yn cerddor a “chwarae maes-b ryw ddydd”, meddai.

Roedd Dionne Jones, mam Osian, ymysg grŵp o rieni oedd yn aros tu allan i adeilad y Chweched Dosbarth am eu plant.


Wrth iddyn nhw aros i’w plant, fe fu golwg360 yn sgwrsio â rhai o’r rhieni am eu perthynas hefo’r iaith Gymraeg, a’u penderfyniad i anfon eu plant i ysgol Gymraeg.

Bu Dionne Jones yn cellwair ei bod hi’n siarad Saesneg “wedi’i phupro â geiriau Cymraeg yma ac acw”.

Dywed John Hodgson o Frynteg ei fod ê’n gweithio yn y sector cyhoeddus ei hun, ym myd addysg, ac felly ei fod yn gweld pa mor ddefnyddiol fyddai’r gallu i siarad Cymraeg o ran gyrfa.

Doedd y Gymraeg ddim wedi cyrraedd pob cenhedlaeth yn nheulu Adele Povey cyn i’r iaith gael ei throsglwyddo iddi hithau.

Dywed fod ei mam “from the mountains” yn Nhreuddyn ger yr Wyddgrug, a’u bod nhw felly i gyd yn siarad Cymraeg ar un adeg.

Ond symudon nhw i ardal Llai wedyn, er mwyn i’w thaid weithio yn y pwll glo yno.

Er nad yw ei mam erioed wedi dysgu Cymraeg, roedd ei chyfnither wedi ei hargyhoeddi hi i anfon ei merch, Lydia, i’r ysgol Gymraeg.

Roedd hyn yn ei dro wedi ysgogi ei mam hithau i ail-gydio yn yr iaith.

Erbyn hyn, mae ei mam yn rhugl, ac wedi parhau hefo gwersi gramadeg ac yn mwynhau gan fod grŵp ohonyn nhw wrthi a bod elfen gymdeithasol i’r dysgu hefyd.

Hanes digon tebyg yw perthynas Alan Pritchard â’r Gymraeg hefyd.

Cafodd ei fagu yn Llannerch Banna, ac fe aeth i ysgol lle roedden nhw’n cael gwersi Cymraeg unwaith neu ddwy bob wythnos, oedd yn rhoi ychydig iawn o amser iddyn nhw o ran yr iaith.

Yn ei flwyddyn olaf, roedd hi’n bosib i’r myfyrwyr ddewis gollwng yr iaith cyn diwedd y flwyddyn, a dyna wnaeth o, gan ddewis Ffrangeg yn hytrach, gan feddwl y byddai’n fwy buddiol iddo.

Ond mewn gwirionedd, doedd hyn ddim yn wir wedi’r cwbl, meddai.

Pan ddaeth yn dad, roedd e a’i bartner yn byw ger Ysgol Plas Coch, ac roedd gan yr ysgol enw da, felly penderfynon nhw anfon eu plant yno iddyn nhw gael dysgu Cymraeg.

Mae James Pritchard, ei fab, yn aros yn yr ysgol ar gyfer y Chweched Dosbarth.

Dyna mae ei ffrindiau am wneud hefyd, ac mae’n dweud y bydd hi’n braf cael ei ffrindiau a’r athrawon mae eisoes yn eu hadnabod o’i gwmpas.

Gostyngiad yn nifer y rhai sy’n astudio Cymraeg?

Mae ffigurau’n dangos bod yna ostyngiad yn genedlaethol yn nifer y disgyblion sy’n dewis astudio’r Gymraeg fel pwnc Safon Uwch.

Yn ôl Einir Lois, Dirprwy Bennaeth yr ysgol, mae’r duedd hon yn gysylltiedig â dyfodiad Bagloriaeth Cymru.

Ers talwm, roedd y Gymraeg yn bwnc y byddai’r disgyblion yn ei astudio fel pedwerydd pwnc weithiau – ond bellach, mae’r Fagloriaeth wedi ei ddisodli i raddau.

Serch hyn, mae tua phedwar i chwech o ddisgyblion yn astudio’r Gymraeg fel pwnc Safon Uwch bob blwyddyn.

‘Dau ddiwrnod gorau yng nghalendr yr ysgol’

Yng nghanol y bwrlwm, fe fu Catrin Pritchard yn cyfarfod â Jeremy Miles dros baned.

Diwrnodau canlyniadau TGAU a Safon Uwch yw’r “ddau ddiwrnod gorau yng nghalendr yr ysgol”, meddai’r pennaeth.

“Mae’r staff wrth eu boddau yn gweld wynebau’r ddisgyblion.

“Mae’n gwneud pob dim werth o wedyn – pob ffrae, pob gwers ychwanegol, pob dim.”

Ffynnu er gwaethaf trafferthion

Er gwaetha’r ffaith fod trafferthion trafnidiaeth wedi cael effaith negyddol sylweddol ar nifer y myfyrwyr sy’n medru aros yn yr ysgol ar gyfer y Chweched Dosbarth, mae’n ymddangos bod y ddarpariaeth Safon Uwch, a’r ysgol ar y cyfan, yn ffynnu yn Wrecsam.

Ac er gwaetha’r heriau o fod ar y ffin a niferoedd a chanran isel y siaradwyr gafodd eu cofnodi yn y Cyfrifiad, mae stori’r iaith Gymraeg yn un bositif, gyda hanesion am adfywyiad a mwynhad o’r newydd o fewn teuluoedd estynedig sy’n deillio o’r ysgol.

Er gwaethaf pawb a phopeth, mae’r iaith Gymraeg yn Wrecsam ‘yma o hyd’.