Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw!

Heb ymwthio ar bobol ifanc ar fore’r canlyniadau, mae’n hollbwysig cofio’r neges: “Er gwaetha’r holl nerfau ar y diwrnod mawr, y gwir amdani yw bod digon o opsiynau o ran beth i’w wneud nesaf waeth beth yw eich canlyniadau chi.”

Roedd disgyblion Ysgol Bro Teifi, Llandysul yn blês â’u canlyniadau.

Aeth golwg360 i glywed ambell ymateb gan ddisgyblion – Emily, Megan, Mali, Guto, Bobi, Mari a Halle – i’w canlyniadau nhw.