Mae diwrnod canlyniadau TGAU yn cychwyn pennod newydd ym mywydau pobol ifanc.

Er gwaetha’r holl nerfau ar y diwrnod mawr, y gwir amdani yw fod digon o opsiynau o ran beth i’w wneud nesaf waeth beth yw eich canlyniadau chi.

A hyd yn oed os ydych chi eisoes wedi gwneud eich penderfyniad am y cam nesaf, dydy hi ddim yn rhy hwyr i newid eich meddwl, yn ôl Catrin Owen, sy’n gynghorydd gyrfaoedd gyda Gyrfa Cymru.

“Dydy o byth rhy hwyr newid meddwl, weithiau rydyn ni’n gwneud penderfyniadau mawr ac yn newid ein meddwl ac mae hynny’n berffaith iawn,” meddai wrth golwg360.

“Os dydych chi ddim yn siŵr beth i’w wneud, mae hynny’n iawn hefyd.

“Dydy diwrnod canlyniadau ddim yn golygu dy fod di’n gorfod gwybod yn union beth wyt ti eisiau ei wneud yn y dyfodol rŵan hyn.”

Mae hi hefyd am atgoffa pobol ifanc sydd heb dderbyn y canlyniadau roedden nhw’n eu disgwyl fod hynny’n “berffaith iawn”.

“Peidiwch a phanicio!” meddai.

Y cyngor mwyaf sydd ganddi, meddai, yw y dylai pobol ifanc fynd ati i drefnu apwyntiad gyda chynghorydd gyrfaoedd fel hi er mwyn trafod eu hopsiynau ac i gynllunio at y cam nesaf.

Mae modd trefnu apwyntiad ar-lein drwy wefan Gyrfa Cymru, lle mae cwis gyrfaoedd er mwyn rhoi blas i bobol ifanc ar y math o yrfa sy’n gweddu i’w diddordebau.

“Fedrwn ni ddod i dy adnabod di, adnabod dy sgiliau di a dy ddiddordebau di i weld beth fuasai yn dy siwtio di orau a gallwn ni helpu rhoi llwybr newydd yn ei le,” meddai.

“Os nad ydych chi eisiau parhau gydag addysg draddodiadol, gallwch chi edrych ar brentisiaethau, cyflogaeth neu hyd yn oed mynd yn hunangyflogedig neu gychwyn busnes.”


Dyma ragor o wybodaeth am rai o’r llwybrau posib y gallech chi fod yn eu cymryd nesaf:

  • Chweched ddosbarth

Ar ôl derbyn canlyniadau, mae nifer o bobol yn dewis mynd yn eu blaenau i sefyll cymwysterau Safon Uwch.

Mae’r cyfnod ‘Lefel A’ yn ddwy flynedd o hyd, a dyma’r dull mwyaf traddodiadol o fynd ymlaen i’r brifysgol.

Ond hyd yn oed os mai mynd i’r brifysgol yw eich breuddwyd, mae amryw o lwybrau eraill y gallwch chi eu cymryd i gyrraedd y fan honno heb orfod sefyll arholiadau Safon Uwch.

  • Prentisiaethau

Opsiwn poblogaidd arall yw prentisiaethau, sy’n ffordd o gyfuno byd gwaith ac addysg.

Yn ystod prentisiaeth, mae’r rhan fwyaf o’ch amser yn cael ei dreulio yn gweithio mewn diwydiant penodol, a’r gweddill yn ôl yn yr ystafell ddosbarth.

Byddwch yn cael eich talu am eich amser yn gweithio, tra bod treulio amser yn yr ystafell ddosbarth yn rhoi’r cyfle i chi weithio tuag at gymwysterau newydd.

Maen nhw’n dueddol o amrywio o un i bum mlynedd, ac maen nhw ar gael mewn cannoedd o feysydd, gan gynnwys marchnata, fferylliaeth, adeiladu ac arlwyo, ag enwi rhai ohonyn nhw’n unig. Felly mae rhywbeth at ddant bawb.

Caiff prentisiaethau eu cynnig gan lu o gyrff neu sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys yr Urdd, Cyngor Gwynedd a Phrifysgol Caerdydd.

  • Cymwysterau galwedigaethol

Tra bod Safon Uwch yn dueddol o roi’r pwyslais ar yr academaidd ac yn digwydd o fewn yr ystafell ddosbarth, mae cymwysterau galwedigaethol yn gyfle i roi sgiliau ymarferol ar waith.

Mae’r cymwysterau yn cynnwys amrywiaeth eang o bynciau – fel gofal cymdeithasol, trin gwallt, gwyddorau meddygol a pheirianneg.

Felly maen nhw’n gyfle i roi cyd-destun byd go iawn i’ch sgiliau ystafell ddosbarth.

  • Dod o hyd i swydd

Dydy’r byd addysg ddim at ddant pawb, ac mae rhai yn dewis camu i mewn i’w swydd lawn amser gyntaf ar ôl gorffen TGAU.

Mae gan wefan Gyrfa Cymru ddigonedd o wybodaeth ar sut i ysgrifennu CV, llythyr cais a pharatoi at gyfweliadau.

Mae ganddyn nhw fwletin swyddi hefyd er mwyn helpu pobol ifanc i ddod o hyd i’w swydd ddelfrydol nhw.

I entrepreneuriaid ifanc, mae gwybodaeth hefyd ar sut i fynd ati i gychwyn busnes neu fynd yn hunangyflogedig.