Dydy’r dreth dwristiaeth ddim yn “wrth-Seisnig”, a byddai rhai newyddiadurwyr yn elwa o gael triniaeth ar gyfer “cymhleth erledigaeth”, yn ôl gwleidyddion Plaid Cymru.
Daw sylwadau Liz Saville Roberts a Hywel Williams wrth iddyn nhw ymateb i erthygl gan Matthew Lynn yn y Daily Telegraph yr wythnos hon sy’n honni bod “Llywodraeth wrth-Seisnig Cymru’n gyrru ei heconomi i mewn i’r ddaear”.
“Gyda’r fath fesurau anghroesawgar, does rhyfedd fod diwydiant twristiaeth Cymru’n methu”.
Mae hefyd yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o “dreulio gormod o amser yn… ceisio creu llinellau ymwahanol yn San Steffan”.
‘Dim byd anarferol’
“Rydan ni newydd ddychwelyd o’n gwyliau,” meddai Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon.
“Wrth i ni adael, wnaethon ni dalu 26 Ewro gafodd ei gronni yn ystod ein 11 diwrnod yn aros.
“Dim byd anarferol, dim gwrthanogaeth ac yn sicr, doeddan ni ddim yn ei ystyried o’n wrth-Gymreig.
“Efallai y byddai rhai newyddiadurwyr y DT [Daily Telegraph] a’r Daily Post yn elwa o gael therapi cymhleth gwrth-erledigaeth.”
Roedd yn ymateb i sylwadau Liz Saville Roberts, oedd yn tynnu sylw at yr erthygl wreiddiol.
“Dw i’n ofni bod y D Telegraph yn pedlera ystrydebau diog: dydy’r fath bolisïau ddim yn wrth-Seisnig, ond o blaid Cymru,” meddai arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
“Wrth gwrs fod twristiaeth yn ddiwydiant mawr, ac wrth gwrs y dylai twristiaeth gyfrannu at fywiogrwydd ein cymunedau yn y dyfodol.”
‘Mae o’n gyffredin ar draws y byd’
Wrth ymateb i’r drafodaeth ar X (Twitter), dywed Hywel Williams fod y dreth dwristiaeth “yn gyffredin ar draws y byd yn ddiwahân i Saeson a phawb arall”.
Yn ystod y drafodaeth, mae’n cael ei feirniadu am dderbyn cyflog o £86,000 yn ystod yr argyfwng byw.
“Gyda llaw, gosodir cyflogau ASau gan gorff anibynnol,” meddai wrth ymateb.
“Byddwn yn gosod fy nghyflog fy hun ar un adeg – yn y sector preifat cyn cael fy ethol.”