Eglwys ger Rhuthun ydy’r gyntaf yng Nghymru i dderbyn gwobr am fod yn ecogyfeillgar.

Mae Eglwys San Pedr yn Llanbedr Dyffryn Clwyd wedi cael Gwobr Aur Eco-Church, sy’n golygu ei bod yn esiampl o arfer amgylcheddol da.

Er mwyn ennill y wobr, maen nhw wedi trawsnewid y fynwent yn fan gwyrdd sy’n cefnogi bywyd gwyllt a bioamrywiaeth.

Maen nhw’n annog bywyd gwyllt brodorol drwy ddarparu blychau adar a hau hadau blodau gwyllt, a chafodd y teitl ei ddyfarnu iddyn nhw gan yr elusen gadwraeth Gristnogol A Rocha UK.

‘Taith wirioneddol’

Dywed un o ficeriaid yr eglwys, y Tad Huw, eu bod nhw wrth eu boddau’n cael y wobr, a’u bod nhw wedi bod yn gweithio tuag ati ers sawl blwyddyn “er mwyn gwreiddio gofal da am y cread a stiwardiaeth ar ein hadnoddau yn ein holl waith wrth i ni geisio bod yn bositif o ran carbon erbyn 2030”.

“Mae sicrhau’r wobr Aur wedi bod yn daith wirioneddol, a gychwynnodd wrth i ni agor ein mynwent, cynnwys y gymuned a’r ysgol leol wrth blannu bylbiau a blodau gwyllt, a chreu mannau newydd yn noddfa i fywyd gwyllt a phobol,” meddai.

“Ond datblygodd yn llawer mwy na hynny, o sicrhau bod ein cyflenwadau ynni yn dod o ffynonellau gwyrdd adnewyddadwy i gael hyd i gyflenwadau glanhau sydd ddim yn niweidio’r amgylchedd.

“Yn ogystal â mesur ein hôl troed carbon ein hunain rydyn ni’n annog ein cymuned i fesur eu hôl troed hwythau a chymryd camau i fyw eu ffydd yn eu bywydau trwy leihau eu defnydd o adnoddau’r ddaear a gwneud pethau bach er lles yr amgylchedd, o rannu ceir i ymuno yn yr arfer o beidio â thorri gwair ym mis Mai.”

‘Esiampl i eraill’

Nod A Rocha UK yw galluogi eglwysi ac unigolion i greu mudiad fydd yn helpu i adfer bioamrywiaeth ar lefel leol yn y degawd hollbwysig hwn i’r hinsawdd.

Mae cynllun gwobrau Eco Church bellach yn ei wythfed flwyddyn, ac mae dros 6,400 o eco-eglwysi yng Nghymru a Lloegr – bron 10% o’r holl eglwysi.

Wrth longyfarch Eglwys San Pedr, dywed Delyth Higgins, Swyddog Eco Church Cymru, fod eu gwaith yn “esiampl ar gyfer eglwysi sydd am gael gwobr aur”.

“Maen nhw’n rhan bwysig o gymuned wledig glòs yng ngogledd-ddwyrain Cymru, lle mae eu gwaith yn effeithio ar eraill o’u cwmpas, ac mae gwaith tîm gwych yn amlwg yma,” meddai.

“Mae mor galonogol clywed eu bod wedi cael eu bendithio â chynnydd yn eu niferoedd, ac mae llawer o hynny o ganlyniad i’w gweithgareddau ymarferol yn yr awyr agored – yn gofalu am y cread ac yn darparu mannau hyfryd i bobol gwrdd a myfyrio.

“Mae cymaint i bawb ohonom ni ei wneud o hyd, ac maen nhw’n cydnabod hynny, ond yn y cyfamser rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw’n mwynhau dathlu’r wobr hon a gweld eraill o bob rhan o Gymru yn cael eu hysbrydoli i ymuno â nhw i weithredu er mwyn gofalu am ein byd rhyfeddol.”