Mae cynghorwyr lleol yn Nyffryn Gwy wedi cwestiynu “gwerth” agor ysgol Gymraeg mewn tref ar y ffin yng Ngwent.

Fodd bynnag, dywed Cabinet Cyngor Sir Fynwy eu bod nhw wedi ymrwymo i sefydlu trydedd ysgol Gymraeg y sir, ac mae disgwyl iddyn nhw fynd ati i agor ysgol yn Nhrefynwy fis Medi y flwyddyn nesaf.

Ond mae argymhelliad hefyd y dylai’r Cabinet Llafur gytuno i weithredu eu polisi trafnidiaeth ysgol ar gyfer pob disgybl newydd yn yr ysgol, sy’n golygu na fydd hawl gan bobol ifanc yr ardal bellach i gael trafnidiaeth rhad ac am ddim i Ysgol Y Fenni, hyd yn oed os yw eu brodyr a’u chwiorydd hŷn wedi ymrestru yn yr ysgol.

“O fis Medi 2024, bydd dalgylch Ysgol Gymraeg y Fenni yn newid, ac i ddisgyblion sy’n byw yn Nhrefynwy a’r cyffiniau, yr ysgol yn y dalgylch fydd yr ysgol newydd yn Nhrefynwy,” medd adroddiad i’r Cabinet – sydd ar fin ystyried y gwrthwynebiad gan y cyngor cymuned a’r camau nesaf er mwyn sefydlu’r egin ysgol ar safle Ysgol Gynradd Saesneg Overmonnow pan fydd yn cyfarfod ar Fedi 6.

Bydd disgyblion sydd eisoes yn mynychu Ysgol y Fenni, sy’n daith o 37 milltir yno ac yn ôl, yn parhau i gael yr hawl i drafnidiaeth o’u cartrefi i’r ysgol, ac mae’r Cyngor wedi cydnabod fod yr adborth ar sefydlu’r ysgol yn Nhrefynwy wedi tynnu sylw at bryderon ynghylch y posibilrwydd y bydd eu plant yn mynd i ysgolion gwahanol i’w brodyr a’u chwiorydd.

“Er bod yr awdurdod lleol yn deall pryderon rhieni, yr argymhelliad yw y bydd trafnidiaeth yn cael ei darparu yn unol â’r polisi presennol er mwyn sicrhau bod yr ysgol newydd yn sefydlu ei hun yn ei chymuned leol,” medd adroddiad Will McLean, y prif swyddog plant a phobol ifanc.

Gwrthwynebiad

Bydd yr egin fodel yn gweld yr ysgol Gymraeg, fydd â’i chorff llywodraethu ei hun, yn cael ei sefydlu ar safle presennol Ysgol Gynradd Overmonnow, a’r disgwyl yw y bydd yn tyfu gan un flwyddyn o ddisgyblion bob blwyddyn academaidd.

Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu’r unig wrthwynebiad statudol gafodd ei dderbyn yn ystod y cyfnod gwrthwynebu, ar ôl i’r Cabinet gytuno ar eu bwriad ym mis Mehefin i sefydlu’r ysgol yn unol â chefnogaeth yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn y gwanwyn.

Dywed Cyngor Cymuned Dyffryn Gwy eu bod nhw’n ymwybodol o “natur y boblogaeth oedrannus yn Sir Fynwy a’r niferoedd isel iawn o bobol newydd yn mynd i’r ysgolion presennol yn Llandogo a Chymin”.

Maen nhw’n poeni y byddai ysgol newydd yn lleihau ymhellach niferoedd y plant sy’n mynd i’r ysgolion hynny mae eu cyllidebau a’u staff eisoes dan bwysau o ganlyniad i lai o ymrestriadau.

Dywed y Cyngor hefyd nad ydyn nhw wedi’u darbwyllo ynghylch manteision ysgol Gymraeg.

“Mae cynghorwyr hefyd yn cwestiynu pa werth fyddai i’r ysgol newydd o ystyried bod y Gymraeg eisoes yn cael ei dysgu fel rhan o’r cwricwlwm yn y ddwy ysgol bresennol, a’i bod hi’n annhebygol y bydd unrhyw ddiddordeb gan deuluoedd di-Gymraeg yn y cyffiniau.

“Felly mae cynghorwyr yn gwrthwynebu’r ysgol arfaethedig.”

Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Dywed adroddiad Will McLean fod y Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, bod trydedd ysgol gynradd Gymraeg yn “elfen ganolog” o’u cynllun strategol, ynghyd â chyrraedd eu nod eu hunain o 120 o ddysgwyr dosbarth derbyn erbyn diwedd cyfnod y cynllun yn 2031.

Bwriad sefydlu’r ysgol yn Nhrefynwy yw rhoi hwb i’r niferoedd sy’n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, gan fod teithiau hir i’r ysgol yn “un o’r prif resymau mae rhieni’n eu crybwyll am beidio dewis addysg Gymraeg i’w plant”.

Ceir esboniad hefyd fod disgyblion yn cael eu dysgu trwy gyfrwng yr iaith yn ystod y cyfnod sylfaen mewn ysgolion Cymraeg, a bod o leiaf 70% o’r addysg yng Nghyfnod Allweddol 2 drwy gyfrwng y Gymraeg, tra bod disgyblion Cyfnod Sylfaen mewn ysgolion Saesneg yn cael eu dysgu trwy gyfrwng y Saesneg a’r Gymraeg yn cael ei dysgu fel ail iaith yng Nghyfnod Allweddol 2.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi y bydd cyllideb newydd yn cael ei chanfod er mwyn cefnogi costau rhedeg yr ysgol, ac na fydd hyn “yn effeithio ar gyllidebau’r ysgolion presennol”.

Bydd grant Llywodraeth Cymru’n talu costau cyfalaf o £3.6m er mwyn sefydlu’r ysgol, sy’n cynnwys ateb ôl-groniad cynnal a chadw, ac adnewyddu tair ystafell ddosbarth, tra bod cyllideb o £114,982 wedi’i phennu ar gyfer costau rhedeg yn ystod y flwyddyn gyntaf.

Mae hynny’n cynnwys cyflog pennaeth, fydd yn treulio 50% o’u hamser yn dysgu, ond yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl ei hagor bydd costau cyflogau’n cael eu cwtogi i saith mis er mwyn adlewyrchu’r flwyddyn ariannol.