Mae disgwyl i’r holl waith ar Bont y Borth ddod i ben ac i’r bont gael ei hailagor erbyn 2026, yn ôl Aelod Seneddol Ceidwadol Ynys Môn.
Daw hyn ar ôl i Virginia Crosbie gyfarfod â Llywodraeth Cymru, UK Highways A55 a’r contractwyr Spencer Group i glywed am amserlen y gwaith o sicrhau y bydd modd defnyddio’r bont ar ôl cyfnod hir o ansicrwydd eleni.
Dechreuodd y gwaith fis yma, ac mae disgwyl i’r gwaith o adnewyddu’r crogfachau ddechrau ar Fedi 4.
Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn mis Hydref y flwyddyn nesaf, yn ôl yr amserlen, ac wedyn bydd rhaglen baentio’n dechrau ac yn parhau tan fis Awst 2025.
Y disgwyl yw y bydd y ddwy lôn yn ailagor erbyn mis Mawrth 2025.
Bydd y gwaith yn dod i ben dros dro a chamau rheoli traffig ar waith dros gyfnod y Nadolig hyd nes y bydd y gwaith wedi’i gwblhau.
UK Highways A55 sy’n talu am y gwaith.
‘Diweddariad cynhwysfawr’
“Dw i’n diolch i bawb am ddiweddariad cynhwysfawr ynghylch yr hyn fydd yn digwydd, a dw i’n gwybod y bydd pobol yr ynys a’r rheiny sy’n teithio’n gyson i Ynys Môn eisiau gwybod beth fydd yn digwydd dros y ddwy flynedd nesaf,” meddai Virginia Crosbie.
“Mewn gwirionedd, bydd anghyfleustra tan 2025 er mwyn sicrhau bod y bont yn ddiogel ac yn addas at ei phwrpas ar drothwy ei phen-blwydd yn 200 oed.
“Mae hyn yn rywbeth i’r ynys ei ddathlu, ond mae hefyd yn tynnu sylw go iawn at sut rydyn ni’n ddibynnu ar strwythur gafodd ei adeiladu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg i’n cysylltu ni.
“Mae angen i hyn newid, a dyna pam dw i’n cefnogi trydedd bont dros y Fenai.”