Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau’r trefniadau ar gyfer brechu pobol yn erbyn Covid-19 yn yr hydref, yn dilyn pryderon am amrywiolyn newydd.

Yn ôl Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru, prif bwrpas y rhaglen frechu yw hybu imiwnedd y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf, a sicrhau bod gwell amddiffyniad gan bobol rhag iddyn nhw fynd yn ddifrifol wael, gorfod treulio cyfnod yn yr ysbyty neu farw o ganlyniad i’r feirws.

Mae’r JCVI, y cyd-gyngor brechu ac imiwneiddio, yn argymell y dylid defnyddio brechlyn deufalent Omicron BA4-5 ynghyd â’r brechlyn unfalent XBB cymeradwy, yn amodol ar drwyddedu gan asiantaeth yr MHRA (rheoleiddio meddyginiaethau a chynhyrchion gofal iechyd).

Dylai’r brechlynnau diweddaraf gael eu blaenoriaethu i bobol sydd mewn perygl clinigol uwch o ddatblygu symptomau difrifol coronafeirws.

Bydd unigolion sy’n gymwys yn cael y brechlyn mwyaf priodol, yn ddibynnol ar eu hoed a lefel eu risg.

Mae’r JCVI hefyd yn argymell:

  • cynnig brechlynnau o leiaf dri mis ar ôl y dos brechlyn blaenorol, ond fod elfen o hyblygrwydd hefyd
  • dylai’r egwyddor o amseroldeb gael blaenoriaeth dros y dewis o frechlyn pan fydd posibilrwydd o oedi sylweddol wrth roi’r brechlyn diweddaraf
  • rhoi’r brechlyn ffliw yr un pryd â’r brechlyn Covid-19 pan fydd hynny’n hwyluso’r drefn

Dywed y llywodraeth eu bod nhw’n parhau i gael eu harwain “gan y dystiolaeth a’r cyngor clinigol a gwyddonol diweddaraf”.

Bydd y rhaglen frechu ddiweddaraf yn dechrau ar Fedi 11, gan roi’r stoc bresennol o frechlynnau i breswyliaid cartrefi gofal yn y lle cyntaf, a bydd yr apwyntiadau cyntaf yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.

Mae’r llywodraeth yn annog pobol i fynd i gael brechlyn pan fyddan nhw’n cael llythyr yn eu gwahodd i drefnu apwyntiad, a hynny er mwyn amddiffyn eu hunain a phobol eraill.